Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 20fed Ionawr, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naidine Jones  E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd A J Richards.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau

3.

Cais am ganiatâd ar gyfer Trwydded Mangre pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 Gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais a wnaed gan y cynrychiolydd canlynol.

 

Enw'r fangre

Fferm Old Park

Cyfeiriad y fangre

Stryd y Dŵr, Port Talbot SA13 2PB

Enw'r Ymgeisydd

Climax Promotions & Events Limited

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Bute House, Uned 1b Parc Busnes Lakeside, Lamby Way, Tredelerch, Caerdydd CF3 2EP

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Robert Dudley

 

Ar ddechrau'r gwrandawiad, croesawodd y Cadeirydd bob parti i'r cyfarfod, gwnaeth gyflwyniadau ac amlinellodd y weithdrefn i'w dilyn.

 

Cyflwynodd Mr Neil Chapple, Rheolwr y Gwasanaethau Rheoliadol Cyfreithiol, yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol mewn perthynas â'r cais.

 

Roedd Mr Oli Bartlam a Mr Robert Dudley, a gyflwynodd y dystiolaeth ac a atebodd gwestiynau, yn bresennol ar gyfer ac ar ran yr Ymgeisydd, yn ogystal â chynrychiolydd yr Ymgeisydd, Mr Matthew Phipps, a phobl eraill a gyflogir gan yr ymgeisydd.

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Cyflwynwyd chwe sylwad gan Bobl Eraill a oedd hefyd yn breswylwyr lleol. Yn bresennol yn y cyfarfod oedd Mr Morris (yn bersonol) a Mr Powell (o bell), a chyflwynwyd tystiolaeth ganddynt cyn ateb cwestiynau.

 

Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu, ac yn unol ag egwyddorion 'Datganiad o Bolisi Trwyddedu (2021)' y Cyngor a darpariaethau'r canllawiau statudol a roddwyd dan adran 182 Deddf Trwyddedu 2003, penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais ar gyfer trwydded mangre newydd yn destun yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad y cytunwyd arnynt gan yr Ymgeisydd, Heddlu De Cymru a'r Gwasanaeth Rheoleiddiol Cyfreithiol.

 

Rhesymau:

I gyrraedd penderfyniad, daeth yr Is-bwyllgor i'r casgliadau canlynol:

  1. Yn gyffredinol, ystyriodd yr Is-bwyllgor fod y sylwadau a'r dystiolaeth oddi wrth yr Awdurdodau Cyfrifol, yr Ymgeisydd a'r Bobl Eraill yn gymhellgar ac yn berthnasol.
  2. Ystyriodd yr Aelodau fod yr amodau cadarn wedi'u cytuno â'r Awdurdodau Cyfrifol ac nad oedd y Drwydded yn achos unrhyw bryder iddynt. Roedd y Drwydded yn glynu wrth y polisi a'r arweiniad.
  3. Roedd yr Aelodau'n fodlon ar arbenigedd a phrofiad yr Ymgeisydd a'i ymrwymiad i asesiadau risg, hyfforddiant, polisïau a'r Cynllun Rheoli Diogelwch Digwyddiadau. Teimlwyd nad oedd amheuaeth bod y fangre mewn dwylo diogel ac y dylid cymeradwyo'r Drwydded.
  4. Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar bod y Bobl Eraill am weithio gyda'r Ymgeisydd i wella'r materion yn hytrach na cheisio'i ddinistrio ac roedd eu hymagwedd bwyllog tuag at yr amodau a gynigir yn dangos hynny. Yn ogystal, roedd y ddau berson arall a oedd yn bresennol o blaid y Drwydded.
  5. Y datrysiad gorau a mwyaf effeithlon oedd derbyn yr amodau a gynigiwyd gan Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Rheoleiddiol Cyfreithiol a'r Ymgeisydd, gan fod angen rheolaethau llym i ddiogelu'r preswylwyr sy'n byw gerllaw ac ymwelwyr â'r digwyddiad.
  6. Ystyriodd yr Is-bwyllgor fod yr amcanion trwyddedu'n hollbwysig a bod yr Ymgeisydd wedi bodloni safonau'r amcanion hynny. Roedd yr amodau a gynigiwyd ac a atodwyd i'r Drwydded yn gymesur.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.