Lleoliad: Microsoft Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cais i amrywio Trwydded Mangre - The Other Place Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau
ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i amrywio
Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Penderfynwyd: Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r
cais i amrywio'r Drwydded Safle, yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen
weithredu, ac fel yr ystyrir yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.
Dyma'r amodau: a. Ni chaniateir i'r bar allanol (fel y nodir ar y cynllun
sydd ynghlwm wrth y drwydded) werthu alcohol rhwng 9.00pm a 7.59am; b. Bydd arwyddion amlwg yn cael eu codi yn yr ardd
gwrw y tu allan, yn gofyn i gwsmeriaid gadw lefelau sŵn i'r lefel lleiaf
posib a gadael mewn modd tawel a threfnus, er mwyn lleihau'r effaith ar
breswylwyr lleol; c. Caiff system teledu cylch cyfyng ddigidol ei
gosod ar y safle neu caiff y system bresennol ei chynnal, a fydd yn weithredol
bob amser pan fydd y safle ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o
ansawdd tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid cadw'r
recordiadau teledu cylch cyfyng am gyfnod o dri deg un (31) o ddiwrnodau, a'u
gwneud ar gael i'w gwylio gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar
gais: Rhaid i'r system roi sylw i'r meysydd canlynol:
i.
Perimedr
allanol y safle;
ii.
Mynedfa/mynedfeydd
ac allanfa/allanfeydd y safle;
iii.
Pob rhan
gyhoeddus o'r safle (ac eithrio'r toiledau). d. Bydd aelod o staff o'r safle, sy'n gyfarwydd â
gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y safle
ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu
luniau diweddar i'r Heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â
phosib yn dilyn cais cyfreithlon; e. Bob nos Wener a nos Sadwrn, y nos Sul cyn unrhyw
wyliau cyhoeddus, Noswyl Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Gwener y
Groglith, bydd o leiaf ddau (2) oruchwylydd drws cofrestredig SIA ar
ddyletswydd o 9.00pm tan yr amser cau; f. Ar bob adeg arall, bydd Deiliad y Drwydded Safle
yn asesu'r angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng
yr adegau hynny ac mewn unrhyw niferoedd sy'n ofynnol gan yr asesiad risg.
Byddant hefyd yn arddangos eu trwydded SIA mewn band braich adlewyrchol tra
byddant ar ddyletswydd; g. Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch yn
cael ei chynnal. Bydd y gofrestr yn dangos enw, cyfeiriad a rhif trwydded pob
goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r amseroedd y maent yn gweithredu. Rhaid bod
y gofrestr ar gael i'r Heddlu neu swyddog awdurdodedig o'r cyngor ei
harchwilio; h. Bydd polisi Herio 25 yn berthnasol a bydd angen Prawf o Oedran gan unrhyw berson sy'n ymddangos o dan 25 oed sy'n ceisio prynu neu yfed alcohol. Dylai'r dull hwn o ddilysu fod yn fath o adnabyddiaeth sy'n cynnwys ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|||||||||||
Cais am ganiatâd ar gyfer Trwydded Mangre - Family Shopper Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau
ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo
Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r cais am roi Trwydded Safle –
Family Shopper, 11-13 Ysguthan Road, Port Talbot SA12 6LY a wnaed gan
Thayanlini Nageswaran, 86 Farm Drive, Port Talbot SA12 6TF, fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd ac yn amodol ar yr oriau gweithredu a'r amodau
canlynol |
|||||||||||
Cais i amrywio Trwydded Mangre - Gwesty'r Glyn Clydcach Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau
ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i Amrywio Trwydded
Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r cais am roi Trwydded Safle
– Gwesty Glyn Clydach, a wnaed gan, Brian Sheppard, Heol Longford, Castell-nedd SA11 1RA, yn amodol ar yr oriau gweithredu a'r amodau fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd |