Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 12 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Ffioedd Ar Gyfer Gwasanaethau Yn Amlosgfa Margam PDF 335 KB Cofnodion: Rhoddodd
Swyddogion drosolwg o'r adroddiad am ffioedd ar gyfer gwasanaeth dydd Sadwrn yn
Amlosgfa Margam. Eglurodd swyddogion y bu cynnydd cyson cyffredinol yn y gwasanaeth dros y blynyddoedd, ac mae'r ffigurau diweddaraf dros 2023/24, o fis Ebrill i fis Rhagfyr yn dangos y cafwyd 23 o wasanaethau. Gofynnodd swyddogion i'r aelodau a oeddent am gadw'r ffi ar gyfer dydd Sadwrn ar y gyfradd gyfredol, cael gwared arni neu ei newid (ei chynyddu neu ei gostwng). Penderfynwyd: bod y Cyd-bwyllgor yn lleihau'r ffi ychwanegol ar gyfer Sadyrnau i £175 a chytuno ar gyfyngu nifer y gwasanaethau dydd Sadwrn i dri, yn amodol ar adolygiad ymhen chwe mis. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Swyddogion fod gwall yn nheitl yr adroddiad, mae'n
ymwneud ag adroddiad a wnaed gan ffederasiwn yr awdurdodau claddu ac amlosgi. Eglurodd swyddogion y byddai'r adroddiad yn cael ei
ddwyn yn ôl i'r pwyllgor yn yr ychydig fisoedd nesaf; mae hyn yn ymwneud â
Faithful and Gould ac i roi diweddariad i'r pwyllgor ar y mathau o faterion
sy'n cael eu hystyried a bydd wedyn yn penderfynu ar y cyd fel pwyllgor sut i
symud ymlaen â hyn. Gofynnodd yr aelodau a allent gael adroddiad wedi'i
ddiweddaru ar y cynlluniau gwaith (adnewyddu) yr oedd y pwyllgor wedi'u
hawdurdodi a'u cymeradwyo, ar gyfer y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd: bod
yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Ffigurau Amlosgi Ar Gyfer Mis Gorffennaf 2023 i Fis Rhagfyr 2023 PDF 114 KB Cofnodion: Rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar y ffigurau
amlosgi ar gyfer mis Gorffennaf 2023 i fis Rhagfyr 2023 gan dynnu sylw at y
ffaith bod y ffigurau yr un peth, ac eithrio ar gyfer mis Gorffennaf 2023 pan
gafwyd 157 o amlosgiadau. Penderfyniad Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Eitemau brys Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |