Lleoliad: On site
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd 2021-22 Cofnodion: Cyn ethol y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, dechreuodd
Mr C Griffiths y cyfarfod. PENDERFYNWYD: Penodi'r Cynghorydd E V
Latham yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig
2021-22. |
|||
Penodi Dirprwy Gadeirydd 2021-22 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Penodi'r Cynghorydd S Smith
yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig
2021-22. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 61 KB Cofnodion:
|
|||
Adroddiad Alldro a Ffurflen Flynyddol 2020/21 PDF 183 KB Cofnodion: Dywedodd yr Aelodau fod 217 yn fwy o amlosgiadau y llynedd a chafwyd
cynnydd o £140,000 yn yr incwm, ond cafwyd gostyngiad o £10,000 mewn gwariant.
Eglurodd swyddogion y cafwyd cynnydd o ran gwariant mewn rhai meysydd a bod y
prif ostyngiad yn ymwneud â gwaith cyfalaf. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r adroddiad alldro ar gyfer 2020/21, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a gylchredwyd. Y byddai Cadeirydd y Pwyllgor hwn yn cymeradwyo ac yn llofnodi'r Adroddiad
Blynyddol, cyn ardystiad yr archwiliad allanol, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i
ben ar 31 Mawrth 2021. Cadarnhau'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. |
|||
Cymryd rhan yng Nghynllun Rheoli'r Sefydliad Mynwentydd ac Amlosgfeydd PDF 49 KB Adroddiad
yr Uwch-gofrestrydd Cofnodion:
Trafododd yr aelodau elusennau profedigaeth lleol,
a pha elusen y cytunwyd arni i'w henwebu ar gyfer y flwyddyn gyfredol. PENDERFYNWYD: Y byddai Amlosgfa Margam yn parhau
i gymryd rhan yn y Cynllun
Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd. Y byddai'r aelodau'n
cefnogi elusen ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2021-22 sef Tŷ
Hafan. |
|||
Cymharu Amlosgiadau Misol PDF 50 KB Adroddiad yr Uwch-gofrestrydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhannodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y
gymhariaeth fisol o amlosgiadau a gynhaliwyd o 1 Ebrill 2017, fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd yr aelodau am ddiolch i swyddogion am eu holl
waith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. PENDERFYNWYD:Y bydd aelodau'n nodi nifer yr
amlosgiadau a gynhaliwyd yn Amlosgfa Margam ers 1 Ebrill 2017 |
|||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Roedd y Cadeirydd am ddiolch i holl staff Amlosgfa
Margam am eu holl waith caled yn ystod y pandemig. CADEIRYDD |