Agenda a Chofnodion

Annual Meeting, Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam - Dydd Gwener, 18fed Mehefin, 2021 2.15 pm

Lleoliad: On site

Cyswllt: Naidine Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd 2021-22

Cofnodion:

Cyn ethol y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, dechreuodd Mr C Griffiths y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: Penodi'r Cynghorydd E V Latham yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-22.

 

2.

Penodi Dirprwy Gadeirydd 2021-22

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Penodi'r Cynghorydd S Smith yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-22.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2021 yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.

 

 

 

 

4.

Adroddiad Alldro a Ffurflen Flynyddol 2020/21 pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

 

 

Dywedodd yr Aelodau fod 217 yn fwy o amlosgiadau y llynedd a chafwyd cynnydd o £140,000 yn yr incwm, ond cafwyd gostyngiad o £10,000 mewn gwariant. Eglurodd swyddogion y cafwyd cynnydd o ran gwariant mewn rhai meysydd a bod y prif ostyngiad yn ymwneud â gwaith cyfalaf.

 

 

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo'r adroddiad alldro ar gyfer 2020/21, fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Y byddai Cadeirydd y Pwyllgor hwn yn cymeradwyo ac yn llofnodi'r Adroddiad Blynyddol, cyn ardystiad yr archwiliad allanol, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

 

Cadarnhau'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

5.

Cymryd rhan yng Nghynllun Rheoli'r Sefydliad Mynwentydd ac Amlosgfeydd pdf eicon PDF 49 KB

Adroddiad yr Uwch-gofrestrydd

 

Cofnodion:

 

                                   

Trafododd yr aelodau elusennau profedigaeth lleol, a pha elusen y cytunwyd arni i'w henwebu ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

 

PENDERFYNWYD:   Y byddai Amlosgfa Margam yn parhau i

                                             gymryd rhan yn y Cynllun Rheoli Mynwentydd

                                             ac Amlosgfeydd.

 

                                             Y byddai'r aelodau'n cefnogi elusen ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2021-22 sef Tŷ Hafan.

 

 

6.

Cymharu Amlosgiadau Misol pdf eicon PDF 50 KB

Adroddiad yr Uwch-gofrestrydd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y gymhariaeth fisol o amlosgiadau a gynhaliwyd o 1 Ebrill 2017, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

Roedd yr aelodau am ddiolch i swyddogion am eu holl waith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD:Y bydd aelodau'n nodi nifer yr amlosgiadau a gynhaliwyd yn Amlosgfa Margam ers 1 Ebrill 2017

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd am ddiolch i holl staff Amlosgfa Margam am eu holl waith caled yn ystod y pandemig.

 

 

CADEIRYDD