Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Darpariaeth gwasanaethau yn Amlosgfa Magam yn ystod pandemig COVID-19 PDF 87 KB Cofnodion: Cafodd
aelodau drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd bod arferion newydd wedi
codi oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol a ddaeth i rym yn sgîl
argyfwng COVID-19, gan gynnwys teulu a chyfeillion yn sefyll ar hyd rhodfa'r
amlosgfa, lle’r oedd nifer y mynychwyr yn uwch na'r 15 a ganiateir o fewn y
Capel. Diolchodd y
Cadeirydd i Uwch-arolygydd a staff yr Amlosgfa am eu gwaith yn ystod y cyfnod
digynsail hwn. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei
nodi. |
|
Adroddiad Alldro'r Gyllideb 2019-2020 PDF 256 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: 1.Cymeradwyo'r adroddiad alldro ar
gyfer 2019/20, fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd. 2. Y byddai Cadeirydd y Pwyllgor hwn yn
cymeradwyo ac yn llofnodi'r Adroddiad Blynyddol, cyn ardystiad yr archwiliad
allanol, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020. 3. Cadarnhau'r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol. |
|
Ceisiadau am amlosgiadau PDF 61 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei
nodi. |
|
Amserlen Ffotograffig o Waith Estyn ac Adnewyddu (i ddilyn) PDF 1 MB Cofnodion: Rhoddwyd y
newyddion diweddaraf i'r aelodau am y gwaith adfer yn Amlosgfa Margam. PENDERFYNWYD
y byddai'r ffotograffau
yn cael ei nodi. |