Agenda a chofnodion drafft

Special, Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam - Dydd Iau, 14eg Mawrth, 2024 12.00 pm

Lleoliad: Multi Location Meeting - Council Chamber or Via Microsoft Teams

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 18 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2024 fel cofnod cywir.

 

3.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau tebygol o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

5.

Ailstrwythuro rheolwyr yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot a phenodi Clerc Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam (eithriedig o dan Baragraff 12 a 13)

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad i'r Pwyllgor ynghylch ailstrwythuro rheolwyr yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, a oedd wedi arwain at ail-benodi Clerc ar gyfer Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam.

 

Yn dilyn y drafodaeth, cyflwynwyd diwygiad mewn perthynas ag argymhelliad C, a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac fe'i cefnogwyd gan y Pwyllgor. Cafodd yr argymhellion eu cymeradwyo fel a ganlyn:

 

PENDERFYNWYD:

 

Y bydd y Cyd-bwyllgor yn:

(a) Nodi'r newid mewn portffolios rheoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a fydd yn gweld Amlosgfa Margam yn trosglwyddo o Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y Cyngor i'r Pennaeth Gofal Strydoedd;

(b) Nodi ymddiswyddiad Clerc presennol Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam ar gyfer y rhesymau a nodwyd yn y llythyr dyddiedig 31 Mawrth 2024;

 

(c) Penodi Mr James Davies fel Clerc Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam o 1 Ebrill 2024 ar gyfer cyfnod dros dro o 9 mis calendr, gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor ym mis Ionawr 2025 i ystyried effaith y newidiadau a wnaed, yr effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth ac yna, os yw'n briodol, benodi Mr Davies fel clerc parhaol.