Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Amlosgfa Margam - Dydd Llun, 11eg Tachwedd, 2024 11.30 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naidine Jones  E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 13 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024, fel cofnod cywir.

 

3.

Diweddariad ar y rhaglen waith Cyfalaf pdf eicon PDF 792 KB

Bydd y diweddariad ar adroddiad y Rhaglen Waith Gyfalaf yn cael ei ohirio i gyfarfod Cydbwyllgor Amlosgfa Margam yn y dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Waith Cyfalaf, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

 

1.    Adnewyddu'r toiledau presennol yn llwyr, gan osod paneli wal dwrglos, lloriau resin a gwella inswleiddio'r nenfwd.

 

2.    Atgyweiriadau concrit yn unol â'r amcangyfrif a dderbyniwyd – rhwng £125,000 a £150,000 ac eithrio mynediad.

 

3.    Ailaddurno paent gwaith maen, yr amcangyfrif mewnol yw £80,000 ac eithrio mynediad.

 

4.    Ailddatblygu'r iard fewnol, yr ardd goffa a gosod canopi wrth yr allanfa. Esboniodd swyddogion y byddant yn cyflwyno cais cynllunio am ganiatâd adeilad rhestredig ac os caiff ei gymeradwyo, byddai ganddynt bum mlynedd i gwblhau'r prosiect.

 

O ran arwyneb y briffordd, gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth ac roeddent am ystyried cyfreithlondeb pwnt mynediad y gyffordd wrth gyrraedd yr amlosgfa, yn ogystal ag ystyried yr atebolrwydd rhwng y fynwent a CBSCNPT. Cytunodd swyddogion yr ymdrinnir ag arwyneb y briffordd pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

 

 

 

 

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.