Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Penodi Cadeirydd ar gyfer 2024-25 Cofnodion: Bod y Cynghorydd E V Latham yn cael ei benodi'n Gadeirydd Cyd-bwyllgor
Amlosgfa Margam ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2024-25 |
|
Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2024-25 Cofnodion: Bod y Cynghorydd P.Davies yn cael ei benodi'n Gadeirydd Cyd-bwyllgor
Amlosgfa Margam ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2024-25. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 113 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Alldro a Ffurflen Flynyddol 2023/24 PDF 612 KB Adroddiad y Trysorydd –
Huw Jones Cofnodion: Rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar yr Adroddiad Alldro a'r Datganiad
Blynyddol ar gyfer 2023/24, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Penderfynwyd: Bod
aelodau'n cymeradwyo'r: 1.
Adroddiad Alldro ar gyfer
2023/24 2.
Y byddai Cadeirydd y Pwyllgor
hwn yn cymeradwyo ac yn llofnodi'r Adroddiad Blynyddol, cyn ardystiad yr
archwiliad allanol, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024. 3.
Cadarnheir y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol. |
|
Ffigurau Amlosgi ar gyfer mis Ionawr 2024 i fis Mehefin 2024 PDF 113 KB Adroddiad yr Uwch-gofrestrydd – Mr Clive Phillips Cofnodion: Penderfynwyd: bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Y Diweddaraf am y Rhaglen Waith Gyfalaf PDF 177 KB Adroddiad y
Swyddog Technegol i Gyd-bwyllgor Amlosgfa Margam Cofnodion: Rhoddodd swyddogion ddiweddariad i'r pwyllgor ar yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Awgrymodd yr aelodau eu bod yn ymweld ag Amlosgfa
Margam i gael cipolwg ar yr adeilad. Trefnodd swyddogion ddyddiad i aelodau
ymweld â'r safle. Penderfynwyd: bod yr adroddiad yn cael ei nodi |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |