Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naidine Jones E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am eu
presenoldeb. Estynnodd y Cadeirydd ddiolch arbennig i Clive am ei wasanaeth a'i
gyfraniadau ymroddedig, gan gydnabod ei ymddeoliad. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2025
fel cofnod cywir. |
|
Trefniadau Agor Amlosgfa Margam ar ddydd Sul Adroddiad y Clerc – Mr James Michael Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiwyd ychwanegu geiriau at yr argymhelliad.
Roedd y geiriad ychwanegol yn darllen - 'yn ddarostyngedig i amgylchiadau
eithriadol'. Cynigiodd ac eiliodd yr Aelodau'r diwygiad a chymeradwywyd y cynnig
ganddynt Penderfyniad: Bydd yr Aelodau'n cymeradwyo cau Swyddfa'r Amlosgfa ar ddydd Sul (yn
ddarostyngedig i amgylchiadau eithriadol), heb gynnwys Sul y Mamau, Sul y
Tadau, Sul y Blodau a Sul y Pasg. Bydd y tiroedd a'r Capel Coffa'n parhau i fod
ar agor i ymwelwyr a bydd staff yn bresennol ar y safle yn ystod oriau agor y
tiroedd. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |