Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Archwilio - Dydd Mercher, 4ydd Rhagfyr, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Neath Civic Centre A/B

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fudd

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:-

 

Y Cynghorydd H C Clarke

Parthed: Adroddiad Preifat gan y Pennaeth Cyllid gan fod ganddi fudd rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais am hynny.

 

 

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi, 2019.

 

 

 

 

 

3.

Y Diweddaraf am y Pwyllgor Archwilio - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 166 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar eu rhaglen waith gyfredol a chynlluniedig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddfa Archwilio Cymru am ei chymorth yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

Dylid nodi'r adroddiad.

 

 

4.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol hyd at 15 Tachwedd 2019 pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor yr Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol hyd at 15 Tachwedd 2019 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nodwyd bod swydd yr Archwilydd Cynorthwyol wedi'i llenwi yn effeithiol o 6 Ionawr 2020. Mae'r swydd Swyddog Twyll yn parhau i fod yn wag, roedd Aelodau'n gefnogol o hysbysebu'r swydd yn allanol ar ddechrau 2020.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch Cronfeydd Answyddogol mewn ysgolion; nodwyd bod y term yn hanesyddol ac nid arian yr awdurdod oedd hwn. Esboniodd y swyddogion y dylai'r holl lywodraethwyr fod yn ymwybodol bod Cronfa Answyddogol yn bodoli a chyfrifoldeb pob corff llywodraethu yw sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei wario'n briodol a bod y gronfa'n cael ei rheoli'n broffesiynol. Pwysleisiwyd y caiff adroddiad am ganfyddiadau ac argymhellion ei ddosbarthu i'r holl Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr a chaiff yr arweiniad presennol ei ddiweddaru er mwyn darparu arweiniad mwy cynhwysfawr ar gyfer gweithrediad y cronfeydd hyn.

 

Eglurwyd y rheswm dros ddileu archwiliadau Datganiadau Gyrru Aelodau e.e. gan na chaiff Aelodau eu hystyried yn weithwyr nid oes gofyn iddynt gydymffurfio â Pholisi Gyrru yn y Gweithle'r awdurdod.

 

Darparwyd esboniad i'r aelodau ynghylch archwiliad o'r Cyfarfodydd Strategaeth Cam-drin Proffesiynol a gynhelir yn y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD:

Dylid nodi'r adroddiad.

 

 

5.

Monitro Rheoli'r Trysorlys 2019/2020 pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth Monitro Rheoli'r Trysorlys 2019/2020 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

Dylid nodi'r adroddiad.

 

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol sy'n debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12, 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

7.

Archwiliadau lle defnyddiwyd Graddfa Risg 3, 4 neu 5 a manylion yr Ymchwiliadau Arbennig

Cofnodion:

(Cadarnhaodd y Cynghorydd H C Clarke ei budd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)

 

Derbyniodd aelodau'r diweddaraf am archwiliadau ymchwiliadau arbennig a gynhaliwyd yn y chwarter diwethaf, yn ogystal ag ymchwiliadau arbennig sydd ar waith ar hyn o bryd.

 

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddent yn hapus i ddosbarthu copïau o'r adroddiadau hyn yn llawn i aelodau os byddent yn gofyn amdanynt cyn y cyfarfod.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch cynrychiolwyr yn mynd i gyfarfodydd pwyllgor, cytunwyd byddai'r Pennaeth Cyllid yn dod â braslun, i'w gytuno, i'r cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

 

CADEIRYDD