Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Archwilio - Dydd Mercher, 25ain Medi, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fudd

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:-

 

Y Cynghorydd H Clarke

Parthed: Adroddiad preifat y Pennaeth Cyllid am ei bod hi'n Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.

 

 

 

2.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol sy'n debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3.

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu'n eithriedig) yn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cynghorydd H K Clarke ei budd a gadawodd y cyfarfod.

 

Derbyniodd aelodau wybodaeth am yr archwiliadau a gynhaliwyd yn y chwarter olaf fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Torrodd cyfarfod y pwyllgor am 2.25pm.

 

Ailgyfarfu’r pwyllgor am 2.45pm.

 

PENDERFYNWYD:

Gohirio adroddiad rhif 11, eitem 4 o'r adroddiad a ddosbarthwyd i gyfarfod y pwyllgor archwilio yn y dyfodol. Yn ychwanegol, yr ailgyflwynir yr adroddiad i’r pwyllgor mewn da bryd.

 

Parhaodd trafodaeth ar yr eitemau ychwanegol a oedd yn gynwysedig yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

Y dylid nodi'r adroddiad.

 

 

 

- Penderfynodd y pwyllgor agor sesiwn agored -

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

 

 

5.

Diweddariad y Pwyllgor Archwilio - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar eu rhaglen waith gyfredol a chynlluniedig.

 

PENDERFYNWYD:

Y dylid nodi'r adroddiad.

 

 

6.

Pwyllgor Archwilio-Annual Report 2018-2019 pdf eicon PDF 29 KB

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau drosolwg o - Adroddiad Blynyddol 2018 - 2019 y Pwyllgor Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

Rhoi cymeradwyaeth honno i anfon yr Adroddiad Blynyddol 2018 - 2019 at y cyngor.

 

 

7.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol hyd at 31 Awst 2019 pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor yr Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol hyd at 31 Awst 2019 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

Rhoddodd yr adroddiad fanylion y gwaith a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o'i gymharu â'r hyn a gynhwyswyd yn y Cynllun Archwilio Mewnol ac amlygodd faterion sy'n berthnasol i berfformiad yr adran.

 

Esboniwyd y bu oedi wrth gwblhau'r nifer rhaglenedig o archwiliadau. Roedd hyn oherwydd y bu’n rhaid ymestyn yr amserlen ar gyfer cynnal archwiliadau oherwydd cymhlethdod yr ymchwiliadau.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Cytunwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yn gofyn am anfon llythyr at bob ysgol yn ardal Castell-nedd Port Talbot, yn gofyn am gadarnhad bod yr holl wiriadau GDG angenrheidiol wedi'u cyflawni.

 

PENDERFYNWYD:

Y dylid nodi'r adroddiad.

 

 

8.

Monitro Rheolaeth y Trysorlys 2019/2020 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth Monitro Rheoli’r Trysorlys 2019/2020 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

Y dylid nodi'r adroddiad.