Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 4ydd Ebrill, 2022 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Naidine Jones  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a galw’r rhestr

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Suzanne Paddison bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 4 Hydref,   

                                       2022.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

That pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972, the public be excluded for the following items of business which involved the likely disclosure of exempt information as defined in Paragraph 12 and 15 of Part 4 of Schedule 12A of the above Act.

 

Cofnodion:

 

 

PENDERFYNWYD:Yn unol ag Adran 100A (4) a (5)

o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

5.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a gofynnwyd iddynt ystyried a oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. 

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:      Ar ôl ystyried yr adroddiad, a chlywed yr holl sylwadau, ac ystyried polisi trwyddedu tacsis y cyngor, GWRTHODWYD y cais ar y sail nad oedd yn bodloni Polisi Trwyddedu'r Awdurdod ac nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno unrhyw resymau eithriadol ynghylch pam y dylai'r cyngor wyro oddi wrth ddarpariaethau ei bolisi tacsis.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.