Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 47 KB Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
29 Tachwedd. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau ystyried y diwygiadau
arfaethedig i'r Polisi Trwyddedu Tacsis ynghylch arweiniad ar benderfynu ar
addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y busnes cerbydau hacni a hurio
preifat, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r
diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Trwyddedu Tacsis fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. |
|
Diwygio'r Polisi Trwyddedu Tacsis - Cofrestr Genedlaethol Dirymu a Gwrthod PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd i aelodau ystyried y diwygiadau
arfaethedig i'r Polisi Trwyddedu Tacsis ynghylch arweiniad ar gynnwys
gwybodaeth am y Gofrestr Genedlaethol Dirymu a Gwrthod (NR3), fel y nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r
diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Trwyddedu Tacsis fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwahardd y
cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r
eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth
eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf
uchod. |
|
Trwyddedu Gyrrwr Cerbydau Hacni a Hurio PreifatT - Achos 1 Cofnodion: Cafodd Aelodau wybodaeth mewn perthynas â dirymu
Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |