Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 28ain Hydref, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2019.

 

2.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol sy'n cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig a nodwyd ym Mharagraff 12 ac 15 o Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

 

3.

Trwydded Cerbyd Hackney a Gyrrwr Llogi Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

  PENDERFYNWYD:

Gwrthod y cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

 

4.

Trwydded Cerbyd Hackney a Gyrrwr Llogi Preifat - Achos 2

Cofnodion:

Derbyniodd aelodau'r diweddaraf am ddiddymu trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

 PENDERFYNWYD:

Dylid nodi'r adroddiad.

 

 

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Oherwydd bod angen ymdrin â'r mater a gynhwysir yng Nghofnod Rhif 6 isod ar unwaith, cytunodd y Cadeirydd y gellid ei drafod yng nghyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm

 

Oherwydd yr angen dybryd i benderfynu a yw'r gyrrwr yn dal i fod yn berson addas a chymwys i gael trwydded.

 

6.

Trwydded Cerbyd Hackney a Gyrrwr Llogi Preifat - Achos 3

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried a yw'r Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn dal i fod yn berson addas a chymwys i gael trwydded, fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

  PENDERFYNWYD:

Atal y Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat am gyfnod o bythefnos a chyflwyno rhybudd i'r Rheolwr Trwyddedu am ganlyniadau tebygol unrhyw weithredoedd annoeth yn y dyfodol.