Cofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 30ain Medi, 2019 10.00 am

Lleoliad arfaethedig: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi, 2019.

 

 

2.

Polisi masnachu ar y stryd - gwelliant pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau'r pwyllgor gymeradwyo diwygiad paragraff 6 o'r Polisi Masnachu ar y Stryd er mwyn cynnwys y canlynol:

 

Ni fydd angen Caniatâd Masnachu ar y Stryd pan fyddwch yn masnachu fel rhan o ffair deithiol os byddwch yn bodloni'r amodau canlynol:-

·        Ystyriwyd y digwyddiad gan Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Castell-nedd Port Talbot a bod unrhyw argymhellion a gynigir gan y grŵp yn cael eu rhoi ar waith.

·        Mae gennych bob caniatâd perthnasol gan y cyngor ac asiantaethau partner, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr Heddlu, yr Awdurdod Tân, etc.

 

 

3.

Eitemau brys

Cofnodion:

Oherwydd bod angen ymdrin â'r mater a gynhwysir yng Nghofnod 4 a 6 isod ar unwaith, cytunodd y Cadeirydd y gellid eu trafod yng nghyfarfod heddiw fel eitem brys yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm

 

Oherwydd yr amserlen.

 

 

4.

Adran drwyddedu - adroddiad blynyddol pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i aelodau o ran gweinyddu a gorfodi materion trwyddedu ar gyfer cyfnod 2018-2019, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch trwyddedu anifeiliaid a nodwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi cefnogi cyflwyno Cyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau cŵn bach gan siopau anifeiliaid a gwerthwyr masnachol trydydd parti eraill.

 

Rhoddodd swyddogion wybod i'r pwyllgor fod arolygiadau di-rybudd o dacsis wedi dod i ben am gyfnod byr oherwydd nad yw'r tîm Heddlu y mae'r Adran Trwyddedu'n gweithio'n agos gyda nhw ar gael, ond mae'r arolygiadau hyn wedi ailddechrau erbyn hyn.  Cytunwyd y byddai'r pwyllgor yn cael gwybod os bydd unrhyw broblemau ynghylch cyflawni arolygiadau o gerbydau yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion trwyddedu am eu gwaith da.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

5.

Mynediad at gyfarfodydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

6.

Cais am gerbyd Hackney a thrwydded gyrrwr hurio preifat - Achos 1

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf oherwydd nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol.