Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 15fed Mai, 2023 10.00 am

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 14 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion blaenorol y Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu a gynhaliwyd ddydd Llun 6 Mawrth 2023 fel cofnod cywir.

 

4.

Bil Tacsi a Llogi Preifat (PHV) (Cymru) - Ymateb i'r Papur Gwyn pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a ddosbarthwyd gan y Rheolwr Trwyddedu. Nododd yr aelodau gamgymeriad teipio ym mharagraff dau, tudalen 17 o'r adroddiad, cadarnhaodd Swyddogion y byddai'r adroddiad yn cael ei ddiwygio i unioni'r gwall hwn.

 

Gofynnodd yr aelodau i'r rheolwr trwyddedu ofyn am fanylion ychwanegol ar safonau gyrru Grŵp 2, sy'n rhan o wiriad cyflyrau meddygol cyfredol y DVLA. Ymatebodd y Rheolwr Trwyddedu y byddai'n ysgrifennu at y DVLA yn mynegi pryderon yr Aelodau am y safonau presennol, ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor unwaith y bydd y wybodaeth hon wedi'i hadalw.

 

Penderfyniad:

Gan roi sylw dyledus i atodiad 1, roedd yr Aelodau'n cytuno i GYMERADWYO'r adroddiad.

 

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni oedd dim