Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol; Y Cyng. M Crowley ar gyfer eitem 7 ar yr Agenda -
Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. Nodwyd bod y Cyng. Crowley yn credu ei fod yn
adnabod un o gyfeillion agos yr ymgeisydd, felly ystyriwyd hynny'n fudd
personol. Yn dilyn hyn, gadawodd y Cyng. Crowley'r cyfarfod ac ni chymerodd ran
yn y penderfyniad.
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 115 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd SY'N UNOL AG ADRAN 100BA(2) A (7) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 A'R PARAGRAFF EITHRIEDIG DAN NOD 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I'R DDEDDF UCHOD. YN UNOL HEFYD Â PHARAGRAFF 21 O'R ATODLEN, AC YM MHOB AMGYLCHIADAU O'R ACHOS, YSTYRIED BUDD Y CYHOEDD O RAN CYNNAL YR EITHRIAD, YN RHYWYSO BUDD Y CYHOEDD WRTH DATGELU'R WYBODAETH Cofnodion: Penderfynwyd: Yn unol
ag Adran 100B (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff eithriedig
12 a grybwyllir isod o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Hefyd, yn unol â
pharagraff 21 yr Atodlen, ac yn holl amgylchiadau'r achos, ystyrir bod budd y
cyhoedd wrth gynnal yr eithriad yn drech na budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r
wybodaeth
|
|
Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1 Cofnodion: Rhoddwyd
trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a gofynnwyd iddynt
ystyried a oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded i Yrru
Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. Roedd
yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod PENDERFYNWYD: CYMERADWYO cais yr ymgeisydd am Drwydded i Yrru Cerbyd
Hacni a Hurio Preifat, ar ôl ystyried yr adroddiad a chlywed yr holl sylwadau
ac ystyried Polisi Trwyddedu Tacsis y Cyngor. |
|
Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2 Cofnodion: Rhoddwyd
trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a gofynnwyd iddynt
ystyried a oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded i Yrru
Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. Roedd
yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod PENDERFYNWYD: GWRTHOD cais
yr ymgeisydd am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat ar ôl ystyried yr
adroddiad a chlywed yr holl sylwadau ac ystyried Polisi Trwyddedu Tacsis y
Cyngor, ar y sail ganlynol; nid oedd yn bodloni Polisi Trwyddedu Tacsis yr
Awdurdod; ac nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno unrhyw resymau eithriadol
ynghylch pam y dylai'r pwyllgor wyro oddi wrth ddarpariaethau ei bolisi tacsis.
|