Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 3ydd Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth y Cyng. Suzanne Paddison ddatganiad o fudd mewn perthynas ag Achos 1, gan ddweud bod yr ymgeisydd yn etholwr yn ei ward.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 186 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd y cofnodion blaenorol.

 

4.

Eitemau brys

Any urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100B(4)(b) of the Local Government Act 1972.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

5.

Mynediad i gyfarfodydd

That pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972, the public be excluded for the following items of business which involved the likely disclosure of exempt information as defined in Paragraph 12 and 15 of Part 4 of Schedule 12A of the above Act.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

 Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

6.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a gofynnwyd iddynt ystyried a oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod

 

PENDERFYNWYD:  Ar ôl ystyried yr adroddiad, a chlywed yr holl sylwadau, ac ystyried polisi trwyddedu tacsis y cyngor, y dylid GWRTHOD cais yr ymgeisydd ar y sail nad oedd yn bodloni Polisi Trwyddedu'r Awdurdod ac nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno unrhyw resymau eithriadol ynghylch pam y dylai'r cyngor wyro

oddi wrth ddarpariaethau ei bolisi tacsis.

 

7.

Eitem 1 - Achos 1 - Atodiad 2 PCSM - Redacted

Cofnodion:

Ystyriwyd yr eitem sy'n Atodiad yn ogystal â'r pecyn Agenda a gylchredwyd.

 

8.

Eeitem 1 - Achos 1 - Atodiad 3 cynrychiolwyr yr Heddlu (golygu)

Cofnodion:

Ystyriwyd yr eitem sy'n Atodiad yn ogystal â'r pecyn Agenda a gylchredwyd.

 

9.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

Cofnodion:

Hysbyswyd yr aelodau y byddai eitem 7 ar yr agenda'n cael ei gohirio i gyfarfod y Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu yn y dyfodol.