Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 17eg Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 374 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

5.

Adnewyddu Trwydded Perchennog Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais i adnewyddu a throsglwyddo trwydded perchennog cerbyd hacni a oedd wedi dod i ben yn ddiweddar.

 

Penderfynwyd:

y byddai'r aelodau'n CYMERADWYO'r cais, gan fynegi eu cydymdeimladau o ran colled yr ymgeisydd.

 

6.

Diwygiad i'r Polisi Trwyddedu Tacsis - Cerbydau Trydan pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a ddosbarthwyd, a gofynnwyd iddynt ystyried diwygio'r Polisi Trwyddedu Tacsis presennol.

 

Penderfynwyd:

CYMERADWYO'R adroddiad er mwyn cynnal ymarfer ymgynghori cyn y penderfyniad terfynol.