Agenda a Chofnodion

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,

gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn

cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir

ym Mharagraffau 12 a 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

 

2.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon oddi ar yr agenda.

 

3.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

Cofnodion:

3.        Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried camau gweithredu priodol yn unol â gyrrwr trwyddedig, lle'r oedd y gyrrwr wedi cael euogfarn gyrru a rhybudd gan yr heddlu fel a manylwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rhoddwyd amser i'r aelodau ddarllen y Cofnodion PASM preifat a gylchredwyd cyn y cyfarfod.

 

Nid oedd yr aelodau'n gallu dod i benderfyniad a gofynnwyd am wybodaeth bellach mewn perthynas â'r achos er mwyn gwneud penderfyniad.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf.

 

 

4.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 3

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried a oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â thrwydded bresennol y gyrrwr ar ôl clywed pob cyflwyniad, ac fel y manylir yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth am Ardystiadau MS90, er gwybodaeth yn unig.

 

PENDERFYNWYD:     Bydd y Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn derbyn dau rybudd ar wahân i'w roi gan y Rheolwr Trwyddedu.