Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Mawrth, 25ain Awst, 2020 10.00 am

Lleoliad: Remotely Via Teams

Cyswllt: Tammie Davies  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraffau 12 a 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

2.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried cais i adnewyddu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat, lle'r oedd y gyrrwr wedi derbyn 9 pwynt ar ei drwydded yrru DVLA.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD             y dylid cymeradwyo'r cais i adnewyddu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat, ond bydd rhybudd ysgrifenedig difrifol yn cael ei gyflwyno gan y Rheolwr Trwyddedu ynghylch ymddygiad yr ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig yn y dyfodol.

 

3.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2 pdf eicon PDF 778 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried y cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat, lle'r oedd gan y gyrrwr euogfarnau.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.