Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 9fed Mawrth, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2020.

 

2.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y cyhoedd yn cael eu heithrio ar gyfer yr eitemau canlynol o fusnes a oedd yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y ' i diffinnir ym mharagraff 12 a 15 o ran 4 o Atodlen 12A o ' r Ddeddf uchod.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

3.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried o oes angen gweithredu mewn perthynas â Thrwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat sydd eisoes yn bodoli, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

Bydd y Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn derbyn rhybudd ysgrifenedig i'w roi gan y Rheolwr Trwyddedu.

 

 

4.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

Cofnodion:


Derbyniodd Aelodau wybodaeth mewn perthynas ag atal Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

5.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat - Achos 3

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau wybodaeth mewn perthynas â dirymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.