Cofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 25ain Tachwedd, 2019 10.00 am

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 49 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2019.

 

2.

Mynediad i gyfarfodydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

3.

Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon nes bod gwybodaeth ychwanegol ar gael i Aelodau.

 

4.

Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

Cofnodion:

Cafodd Aelodau wybodaeth mewn perthynas â dirymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat

 

Eglurodd swyddogion pan fydd yr Is-adran Trwyddedu'n derbyn ymgeisydd newydd, mae hi bellach yn e-bostio Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gwirio a yw'r ymgeisydd yn ymddangos ar eu cofrestr Oedolion neu Blant.

 

Esboniodd swyddogion i Aelodau fod y gwaith o sefydlu cronfa ddata NR3 (Cronfa Ddata Genedlaethol sy'n nodi gyrwyr y gwrthodwyd eu trwydded a dirymiadau) ar y camau olaf ac y byddai ar gael yn fuan. Byddai hyn yn darparu manylion gyrwyr y mae eu trwyddedau wedi'u gwahardd neu eu dirymu i swyddogion.

 

Mynegodd Aelodau bryder ynghylch system ddatgelu'r heddlu mewn perthynas â gyrwyr tacsi. Cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Heddlu De Cymru a chopi ohono'n mynd i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd rhannu gwybodaeth o ran datgelu gyrrwr. Dywedodd y Swyddog Trwyddedu hefyd y byddai'r pryderon yn cael eu mynegi yng nghyfarfod Panel Arbenigol Trwyddedu Cymru Gyfan, gyda chynnig bod y llythyr yn cael ei anfon ymlaen i bob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

Bydd y Prif Swyddog Trwyddedu yn anfon llythyr at Heddlu De Cymru (a chopi i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu) a fydd yn amlinellu pryderon Aelodau o ran datgelu a hefyd yn mynegi pryderon yng nghyfarfod nesaf Panel Arbenigol Trwyddedu Cymru Gyfan, gyda'r bwriad i anfon llythyr at y pedwar heddlu.