Lleoliad arfaethedig: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 46 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2
Medi, 2019. |
|||
Polisi masnachu ar y stryd - gwelliant PDF 58 KB Cofnodion: Gofynnwyd i aelodau'r pwyllgor gymeradwyo diwygiad
paragraff 6 o'r Polisi Masnachu ar y Stryd er mwyn cynnwys y canlynol: Ni fydd angen Caniatâd Masnachu ar y Stryd pan
fyddwch yn masnachu fel rhan o ffair deithiol os byddwch yn bodloni'r amodau
canlynol:- ·
Ystyriwyd y digwyddiad gan Grŵp Cynghori ar
Ddiogelwch Castell-nedd Port Talbot a bod unrhyw argymhellion a gynigir gan y
grŵp yn cael eu rhoi ar waith. ·
Mae gennych bob caniatâd perthnasol gan y cyngor ac asiantaethau
partner, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr Heddlu, yr Awdurdod Tân,
etc. |
|||
Eitemau brys Cofnodion: Oherwydd bod angen ymdrin â'r mater a gynhwysir yng
Nghofnod 4 a 6 isod ar unwaith, cytunodd y Cadeirydd y gellid eu trafod yng
nghyfarfod heddiw fel eitem brys yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Rheswm Oherwydd yr amserlen. |
|||
Adran drwyddedu - adroddiad blynyddol PDF 72 KB Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i aelodau o ran gweinyddu a
gorfodi materion trwyddedu ar gyfer cyfnod 2018-2019, fel a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Cafwyd trafodaeth ynghylch trwyddedu
anifeiliaid a nodwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi cefnogi cyflwyno
Cyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau cŵn bach gan siopau anifeiliaid a
gwerthwyr masnachol trydydd parti eraill. Rhoddodd swyddogion wybod i'r pwyllgor fod
arolygiadau di-rybudd o dacsis wedi dod i ben am gyfnod byr oherwydd nad yw'r
tîm Heddlu y mae'r Adran Trwyddedu'n gweithio'n agos gyda nhw ar gael, ond
mae'r arolygiadau hyn wedi ailddechrau erbyn hyn. Cytunwyd y byddai'r pwyllgor yn cael gwybod
os bydd unrhyw broblemau ynghylch cyflawni arolygiadau o gerbydau yn y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion trwyddedu am
eu gwaith da. PENDERFYNWYD nodi'r
adroddiad. |
|||
Mynediad at gyfarfodydd Cofnodion:
|
|||
Cais am gerbyd Hackney a thrwydded gyrrwr hurio preifat - Achos 1 Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf
oherwydd nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol. |