Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 14eg Tachwedd, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

5.

Mynediad i gyfarfodydd


Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd:

SY'N UNOL AG ADRAN 100BA(2) A (7) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 A'R PARAGRAFF EITHRIEDIG DAN NOD 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I'R DDEDDF UCHOD. YN UNOL HEFYD Â PHARAGRAFF 21 O'R ATODLEN, AC YM MHOB AMGYLCHIADAU O'R ACHOS, YSTYRIED BUDD Y CYHOEDD O RAN CYNNAL YR EITHRIAD, YN RHYWYSO BUDD Y CYHOEDD WRTH DATGELU'R WYBODAETH

 

6.

Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a gofynnwyd iddynt ystyried a oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.  

PENDERFYNWYD: Ar ôl ystyried yr adroddiad, a chlywed yr holl sylwadau, ac ystyried polisi trwyddedu tacsis y cyngor, fod cais yr ymgeisydd yn cael ei WRTHOD ar y sail nad oedd yn bodloni Polisi Trwyddedu'r Awdurdod ac nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno unrhyw resymau eithriadol ynghylch pam y dylai'r cyngor wyro oddi wrth ddarpariaethau ei bolisi tacsis. Ystyriwyd NAD oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ac roedd diogelwch y cyhoedd yn flaenllaw ym mhenderfyniad y Pwyllgor.