Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 112 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 17 Hydref 2022 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd
Cofnodion: Penderfynwyd: SY'N UNOL AG ADRAN 100BA(2) A (7) O
DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 A'R PARAGRAFF EITHRIEDIG DAN NOD 12 O RAN 4 O
ATODLEN 12A I'R DDEDDF UCHOD. YN UNOL HEFYD Â PHARAGRAFF 21 O'R ATODLEN, AC YM
MHOB AMGYLCHIADAU O'R ACHOS, YSTYRIED BUDD Y CYHOEDD O RAN CYNNAL YR EITHRIAD,
YN RHYWYSO BUDD Y CYHOEDD WRTH DATGELU'R WYBODAETH |
|
Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1 Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a gofynnwyd iddynt ystyried a oedd
yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol i ddal trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. Roedd yr ymgeisydd
yn bresennol yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD: Ar ôl ystyried
yr adroddiad, a chlywed yr holl
sylwadau, ac ystyried polisi trwyddedu tacsis y cyngor, fod cais yr
ymgeisydd yn cael ei WRTHOD ar y sail nad oedd
yn bodloni Polisi Trwyddedu'r Awdurdod ac nad oedd yr ymgeisydd
wedi cyflwyno unrhyw resymau eithriadol ynghylch pam y dylai'r cyngor wyro oddi wrth
ddarpariaethau ei bolisi tacsis. Ystyriwyd NAD oedd yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ac roedd diogelwch y cyhoedd yn flaenllaw ym
mhenderfyniad y Pwyllgor. |