Agenda a Chofnodion

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Naidine Jones  Committee/Member Admin Officer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2020, 25 Awst 2020, 21 Medi 2020, 12 Tachwedd 2020 a 7 Rhagfyr 2020.

 

2.

Diwygiadau i'r Polisi Tacsis pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Aelodau ar ddwy ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a oedd yn effeithio ar Drwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Croesawodd yr Aelodau'r newidiadau, gan ddweud y dylid edrych ar y dolenni. Dywedodd swyddogion y byddai'r adroddiad yn cael ei ddwyn yn ôl i'r pwyllgor ac y byddai'n destun ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD: Mai eitem er gwybodaeth oedd honno

3.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

4.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd a gofynnwyd iddynt ystyried a oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.

PENDERFYNWYD:     . Cymeradwyo cais yr ymgeisydd am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

 

5.

Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rhoddwyd diweddariad i'r Aelodau ar atal trwyddedu Gyrrwr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.

Penderfynwyd: Y bydd yr aelodau'n nodi'r adroddiad.