Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol
ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o
wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraffau
12 a 15 Adran 4 Atodlen 12A
y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||||
Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1 Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon oddi ar yr agenda. |
|||||
Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2 Cofnodion: 3.
Trwyddedu
Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2 Gofynnwyd i'r aelodau ystyried camau gweithredu
priodol yn unol â gyrrwr trwyddedig, lle'r oedd y gyrrwr wedi cael euogfarn gyrru a rhybudd gan yr heddlu fel a manylwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rhoddwyd amser i'r aelodau ddarllen y Cofnodion
PASM preifat a gylchredwyd cyn y cyfarfod. Nid oedd yr aelodau'n gallu dod i benderfyniad a gofynnwyd am wybodaeth
bellach mewn perthynas â'r achos er mwyn gwneud penderfyniad. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
|||||
Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 3 Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau ystyried a oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas
â thrwydded bresennol y gyrrwr ar ôl clywed pob cyflwyniad, ac fel y manylir yn
yr adroddiad preifat a gylchredwyd. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth am Ardystiadau MS90, er
gwybodaeth yn unig. PENDERFYNWYD: Bydd y Gyrrwr Cerbyd Hacni a
Hurio Preifat yn derbyn dau rybudd ar wahân i'w roi gan y Rheolwr Trwyddedu. |