Lleoliad: Remotely Via Teams
Cyswllt: Tammie Davies Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag
Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r
eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth
eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraffau 12 a 15 Adran 4 Atodlen 12A y
Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1 Cofnodion: Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried cais i adnewyddu
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat, lle'r oedd y gyrrwr wedi derbyn 9
pwynt ar ei drwydded yrru DVLA. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r cais i adnewyddu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio
preifat, ond bydd rhybudd ysgrifenedig difrifol yn cael ei gyflwyno gan y
Rheolwr Trwyddedu ynghylch ymddygiad yr ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig yn y
dyfodol. |
|
Trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2 PDF 778 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried y cais am drwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat, lle'r oedd gan y gyrrwr euogfarnau. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r cais am drwydded gyrrwr cerbyd
hacni a hurio preifat. |