Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 19eg Awst, 2024 10.05 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naidine Jones  E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd, Y Cynghorydd A J Richards bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 15 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               Cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2024 yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               Yn unol ag Adran 100A (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, wahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

6.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Trwyddedu drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat i'r Pwyllgor.

 

Roedd y gyrrwr hefyd yn bresennol ac anerchodd y Pwyllgor, ynghyd â dau gynrychiolydd.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl clywed yr holl sylwadau ac yn dilyn adolygu'r adroddiad preifat a gylchredwyd, penderfynwyd GWRTHOD y cais ar y sail nad oedd Pwyllgor yn ystyried bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol a theimlwyd nad oedd cyfiawnhad dros beidio â dilyn canllawiau Polisi Trwyddedu Tacsis y Cyngor ar yr achlysur hwn.