Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu - Dydd Llun, 17eg Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naidine Jones  E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

 Penderfynwyd:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2025 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais am drwyddedu cerbydau hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

Ar ôl adolygu'r adroddiad a ddosbarthwyd a chlywed sylwadau'r holl bartïon, cytunodd y pwyllgor i gymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau canlynol:

 

  1. Nid yw'n ofynnol i'r arwyddion drws a gyhoeddir gan y cyngor gael eu harddangos ar y cerbyd, pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo cwsmeriaid pwysig, corfforaethol neu weithredol, lle mae'r cwsmer wedi gofyn i'r arwyddion drws beidio â chael eu harddangos.  
  2. Bydd y plât cefn a roddir gan y cyngor yn cael ei osod yn sownd y tu mewn i gist y car ar adegau pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo cwsmeriaid fel a nodir ym mhwynt 1 uchod.  Rhaid arddangos disg adnabod (a ddarperir gan yr Awdurdod Trwyddedu) mewn lleoliad gweladwy y tu ôl i'r ffenestr flaen.
  3. Os yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith hurio preifat, nad yw'n gysylltiedig â chludo cwsmeriaid fel a nodir ym mhwynt 1 uchod, bydd yr arwyddion drws a'r plât cefn yn cael eu gosod yn sownd wrth y lleoliadau a nodir ym Mholisi Trwyddedu Tacsis y cyngor.

 

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Yn unol ag Adran 100BA (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

7.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 1

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r partïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Cytunodd yr aelodau i weithredu y tu allan i'r Polisi ac i ystyried y cais heb dystysgrif ymddygiad da. Gwnaed hyn oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am ei ymddygiad a'i weithredoedd wrth iddo fod y tu allan i'r DU a gwnaed ymdrechion rhesymol i gael tystysgrif ymddygiad da.

 

8.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r partïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Cytunodd yr aelodau i weithredu y tu allan i'r Polisi ac i ystyried y cais heb dystysgrif ymddygiad da. Gwnaed hyn oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am ei ymddygiad a'i weithredoedd wrth iddo fod y tu allan i'r DU a gwnaed ymdrechion rhesymol i gael tystysgrif ymddygiad da.

 

9.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 3

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r partïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Cytunodd yr aelodau i weithredu y tu allan i'r Polisi ac i ystyried y cais heb dystysgrif ymddygiad da. Gwnaed hyn oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am ei ymddygiad a'i weithredoedd wrth iddo fod y tu allan i'r DU a gwnaed ymdrechion rhesymol i gael tystysgrif ymddygiad da.

 

10.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 4

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r partïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Cytunodd yr aelodau i weithredu y tu allan i'r Polisi ac i ystyried y cais heb dystysgrif ymddygiad da. Gwnaed hyn oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am ei ymddygiad a'i weithredoedd wrth iddo fod y tu allan i'r DU a gwnaed ymdrechion rhesymol i gael tystysgrif ymddygiad da.

 

11.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 5

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais i adnewyddu trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. 

 

Roedd y gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed yr holl sylwadau ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Roedd aelodau o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol.

 

 

12.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 6

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r partïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Cytunodd aelodau i weithredu y tu allan i'r Polisi ac i ystyried y cais heb dystysgrif ymddygiad da. Gwnaed hyn oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am ei ymddygiad a'i weithredoedd wrth iddo fod y tu allan i'r DU a gwnaed ymdrechion rhesymol i gael tystysgrif ymddygiad da.

 

13.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 7

Cofnodion:

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu’r adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat, clywed sylwadau’r holl bartïon (gan gynnwys y rhai gan Heddlu De Cymru) ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, cytunodd y Pwyllgor i WRTHOD y cais oherwydd natur yr honiadau (fel a nodir yn yr adroddiad), roedd y cyflwyniadau’n ymddangos yn anghyson ar adegau, ac roedd anghysondeb yn fersiwn yr Ymgeisydd o’r digwyddiadau. Ar ben hynny, credai'r Pwyllgor, yn ôl pwysau tebygolrwydd, adroddiad yr achwynydd o’r honiadau.

 

14.

Gwybodaeth ychwanegol

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r wybodaeth ychwanegol fel rhan o eitem 13 ar yr agenda - achos 7.

 

15.

Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 8

Cofnodion:

 

Gofynnwyd i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl adolygu’r adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat, clywed sylwadau’r holl bartïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y cyngor, cytunodd y Pwyllgor i WRTHOD y cais oherwydd natur y drosedd (fel a nodir yn yr adroddiad), anghysondebau mewn perthynas â’r cyflwyniadau ac nad oedd digon o amser wedi mynd heibio ers ei gollfarn.