Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naidine Jones E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 28 Hydref 2024 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac
15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran 100A (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, wahardd y
cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o
wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 Adran 4 Atodlen 12A y
Ddeddf uchod. |
|
Cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat - Achos 1 Cofnodion: Gofynnwyd
i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Penderfynwyd: Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd,
clywed holl sylwadau'r partïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu
Tacsis y Cyngor, penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Cytunodd aelodau i weithredu y tu allan i'r Polisi ac i ystyried y
cais heb dystysgrif ymddygiad da. Y rhesymau dros hyn yw bod yr ymgeisydd wedi
cyflwyno gwybodaeth am ei ymddygiad a'i weithredoedd wrth iddo fod y tu allan
i'r DU ac wedi gwneud ymdrech rhesymol i gael gafael ar dystysgrif ymddygiad
da. |
|
Cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat - Achos 2 Cofnodion: Gofynnwyd
i aelodau ystyried cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Roedd
yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Penderfynwyd: Ar ôl adolygu'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd, clywed holl sylwadau'r
partïon ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i Bolisi Trwyddedu Tacsis y Cyngor,
penderfynodd y Pwyllgor GYMERADWYO'r cais. Roedd aelodau o'r farn bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol. Cytunwyd hefyd i weithredu y tu allan i'r Polisi ac
i ystyried y cais heb dystysgrif ymddygiad da. Y rhesymau dros hyn yw bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am ei ymddygiad a'i weithredoedd wrth iddo
fod y tu allan i'r DU ac mae wedi gwneud ymdrech rhesymol i gael gafael ar
dystysgrif ymddygiad da. |
|
Cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat - Achos 3 Cofnodion: Gadawodd y Cynghorydd A J Richards y cyfarfod ar ôl y penderfyniad ar gyfer
eitem 7. Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 2. Yn dilyn
hyn, trosglwyddwyd yr awenau i'r Cynghorydd Henton i gadeirio'r cyfarfod. Rhoddodd Reolwr y Gwasanaeth Rheoliadol Cyfreithiol
drosolwg o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd i'r Pwyllgor. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol ac anerchodd y Pwyllgor. Penderfyniad: Ar
ôl clywed yr holl sylwadau ac ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad preifat a
ddosbarthwyd, cytunodd y Pwyllgor i GYMERADWYO'r cais |
|
Adnewyddu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Achos 4 Cofnodion: Rhoddodd Reolwr y Gwasanaeth Rheoliadol Cyfreithiol drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd i'r Pwyllgor. Roedd y gyrrwr yn bresennol ac anerchodd y Pwyllgor. Penderfyniad: Ar ôl clywed yr holl sylwadau ac adolygu'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd, cytunodd yr aelodau y dylid cymeradwy'r cais hwn ac ADNEWYDDU ei Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat ond hefyd dylid cyflwyno
llythyr rhybuddio i'r gyrrwr. |