Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 14 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion blaenorol y Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu a gynhaliwyd ddydd Llun 6 Mawrth 2023 fel cofnod cywir. |
|
Bil Tacsi a Llogi Preifat (PHV) (Cymru) - Ymateb i'r Papur Gwyn PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r
aelodau o'r adroddiad a ddosbarthwyd gan y Rheolwr Trwyddedu. Nododd yr aelodau gamgymeriad
teipio ym mharagraff dau, tudalen 17 o'r adroddiad, cadarnhaodd Swyddogion y byddai'r adroddiad yn cael ei
ddiwygio i unioni'r gwall hwn. Gofynnodd yr aelodau
i'r rheolwr trwyddedu ofyn am fanylion ychwanegol ar safonau gyrru
Grŵp 2, sy'n rhan o wiriad cyflyrau
meddygol cyfredol y DVLA. Ymatebodd y Rheolwr Trwyddedu
y byddai'n ysgrifennu at y
DVLA yn mynegi pryderon yr Aelodau
am y safonau presennol, ac yn adrodd yn
ôl i'r Pwyllgor
unwaith y bydd y wybodaeth hon wedi'i hadalw. Penderfyniad: Gan roi sylw dyledus
i atodiad 1, roedd yr Aelodau'n cytuno
i GYMERADWYO'r adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni oedd dim |