Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie Committee/Member Admin Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 117 KB Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar
13 Rhagfyr 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad penderfyniad Polisi Trwyddedu Tacsis Diwygiedig - Cerbydau Trydan PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg o'r adroddiad i'r Aelodau. Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod yr Aelodau yn cymeradwyo diwygiad i'r Polisi Trwyddedu Tacsis
fel a ganlyn. 1.
Atodiad
E Manyleb 8 - i ddarllen - "bydd cerbydau nad ydynt yn caniatáu mynediad i
gadeiriau olwyn ond yn cael eu hystyried ar gyfer trwyddedu fel dewis amgen ar
gyfer cerbyd presennol nad yw'n caniatáu mynediad i gadeiriau olwyn, ac eithrio
cerbydau cwbl drydanol h.y. cerbydau sy'n cael eu
pweru'n llwyr gan fatri ac nid oes ganddynt fotor tanio mewnol. 2.
Atodiad
E Manyleb 10 - i ddarllen "caiff trwyddedau cerbyd newydd eu rhoi ar gyfer
cerbydau sy'n caniatáu mynediad i gadeiriau olwyn a cherbydau cwbl drydanol yn
unig, h.y. cerbydau sy'n cael eu pweru'n llwyr gan fatri ac nid oes ganddynt
fotor tanio mewnol. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Roedd un eitem frys. |
|
Trwydded Lletywr yn y Cartref Newydd Happy Tails PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad atodol i'r aelodau fel
eitem frys. Penderfyniad: Ar ôl ystyried yr adroddiad, cytunodd yr Aelodau i GYMERADWYO'R
cais, ar y sail bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio'n llawn â'r amodau a nodwyd yn
y Rheoliadau Saesneg presennol, amod 16.3 sy'n nodi 'os oes unrhyw berson dan
16 oed yn byw yn y cartref, rhaid bod gweithdrefnau ar waith i reoleiddio'r hyn
sy'n digwydd rhwng y cŵn a'r person hwnnw.' Rhaid i'r ymgeisydd hefyd
lunio Asesiad Risg yn unol â'r amodau hyn. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mae hynny'n unol ag Adran
100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac eithrio'r cyhoedd am yr eitemau
canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio'n
debygol fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r
Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac
15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - Adroddiad preifat Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Trwyddedu'r diweddaraf am yr
adroddiad i'r Aelodau. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.
|