4 Grantiau Trydydd Sector a Threfniadau Comisiynu PDF 214 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a amlinellwyd ym
mhecyn yr agenda.
Holodd yr aelodau a oedd yr un swm ar gael â'r hyn
a gafwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol neu a oedd yn llai? Cadarnhaodd
swyddogion fod yr un swm ar gael â'r hyn a gafwyd yn ystod y flwyddyn
flaenorol. Mae'r awdurdod wedi ymrwymo
i gynyddu cyllid yn unol â'r cynnydd arfaethedig mewn grant refeniw ar gyfer y
flwyddyn ganlynol. Rhagwelwyd mai 0% fyddai cynnydd y Grant Cynnal Refeniw,
felly roedd yr un swm o gyllid ar gael. Y llynedd ni chafodd y cyllid ei ddyrannu'n
llwyr, ond cadarnhaodd y swyddog fod y swm llawn wedi ei adfer eleni.
Cyfeiriodd yr aelod at y ffurflenni cais, a'r newid
canfyddedig mewn meini prawf sy'n awgrymu gwaharddiad rhag cyflwyno cais ar
gyfer 'cyllid craidd'. Dywedodd yr aelodau fod trafodaeth ym Mhwyllgor Cyswllt
y Sector Gwirfoddol yn awgrymu mai nod y grant oedd ariannu gweithgareddau
craidd nad oedd modd eu hariannu drwy feysydd eraill.
Ar hyn o bryd, mae chwe sefydliad sydd wedi ymrwymo
i gyllid craidd, sef cyfanswm o £350,000 ar gyfer y flwyddyn nesaf fel rhan o'r
cytundeb tair blynedd. Cadarnhaodd swyddogion fod cynnig yn y trefniadau grant
i bennu uchafswm gwerth £25,000 er mwyn dosbarthu'r cyllid i fwy o sefydliadau.
Mae'r meini prawf wedi'u teilwra i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cefnogi
sy'n ategu meysydd blaenoriaeth a nodwyd.
Dywedodd yr aelodau y dylid nodi sylwadau'r
pwyllgor ynghylch sicrhau bod y cyllid hefyd ar gael ar gyfer costau craidd, yn
ogystal â chostau prosiectau a bod hyn yn cael ei gyfleu i'r Cabinet cyn i
unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
Yn dilyn gwaith craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i
fynd gerbron y Cabinet.