Mater - cyfarfodydd

*Insert Report Title*

Cyfarfod: 12/09/2024 - Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (Eitem 5)

5 Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad ar y Cyd a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiad y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd a fydd yn llywio'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol.

Amlygwyd bod yr Aelodau wedi derbyn fersiwn ddrafft o'r adroddiad hwn yng nghyfarfod diwethaf Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; ni fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y cyfarfod hwn, er bod mwy o fanylion wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi craffu ar yr adroddiad a'i gymeradwyo.

Roedd Prif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi derbyn adborth ar y cynllun drafft gan Swyddogion y Comisiynwyr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; er eu bod yn fodlon ar y cynllun, gwnaethant ddarparu rhai argymhellion. Nodwyd mai'r prif argymhelliad oedd cynnwys dyddiadau cyflawni targedau yn y cynllun gweithredu. Eglurwyd y gallai'r Prif Weithredwr wneud y diwygiad hwn, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, pe bai'r Aelodau'n fodlon ar hynny. Cadarnhawyd bod yr Aelodau'n fodlon i'r Prif Weithredwr ychwanegu dyddiadau cyflawni targedau at y cynllun gweithredu.

Llongyfarchodd y Pwyllgor Swyddogion ar y gwaith a oedd wedi cael ei wneud i ddatblygu'r strategaeth. 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd, er mwyn galluogi'r cynllun gweithredu i gael ei roi ar waith, a datblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol.