5 Monitro Alldro'r Gyllideb Cyfalaf 2023-24 PDF 301 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda.
Mewn perthynas â'r Gronfa Ffyniant Bro, nododd yr
aelodau nad oedd cyfeiriad at brosiect Port Talbot a thrafnidiaeth. Holodd yr
Aelodau a oedd unrhyw gyllid wedi'i wario mewn perthynas â'r prosiect.
Cadarnhaodd swyddogion mai gwariant cyfyngedig sydd
wedi bod ar brosiectau, yn enwedig prosiect Port Talbot. O ran prosiect y bont,
cadarnhawyd bod yr awdurdod yn parhau i aros am y llythyr cynnig. Mae'n debygol
bod yr etholiad cyffredinol diweddar wedi achosi oedi o ran rhai eitemau gan y
llywodraeth ganolog.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y gyllideb cyfalaf
gyffredinol, a mynegwyd eu dryswch ynghylch sut y mae rhai eitemau a
amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu cynnwys yn y gyllideb cyfalaf. Mae
gwefan y Cyngor yn darparu rhywfaint o naratif o ran yr hyn sy'n cael ei
gynnwys yn y gyllideb cyfalaf ond mae'r adroddiad yn amlinellu rhai eitemau a
gynhwysir ynddo nad yw aelodau'n credu eu bod yn dod o dan ddiffiniad cyllideb
cyfalaf. Ystyriwyd yr enghraifft o brydau ysgol am ddim. Awgrymodd yr Aelod y
dylid nodi sylw esboniadol sy'n amlinellu beth yw buddsoddiadau.
O ran grantiau Prydau Ysgol am Ddim sy'n cael eu
derbyn a'u nodi yn y gyllideb cyfalaf, cadarnhaodd swyddogion fod y rhain yn
tueddu i ymwneud â'r prosiectau isadeiledd e.e. ceginau ysgol newydd, sy'n cael
eu hariannu gan y grantiau.
Nododd yr Aelodau eu pryder lle cyfeiriodd yr
adroddiad at 'fuddsoddiad arall'. Nid yw hyn yn nodi'n glir yr hyn y mae'r
cyllid yn ymwneud ag ef. Cydnabu'r swyddogion y pryder hwn a chytunwyd i
ddarparu rhagor o fanylion mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Holodd yr Aelodau, o ystyried tanwariant sylweddol
gwerth £6.156m y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24, pa wersi a ddysgwyd ynghylch
cynllunio prosiectau cyfalaf a'u rhoi ar waith ac a fydd y gwersi hyn yn cael
eu defnyddio i lywio prosiectau yn y dyfodol ac amserlenni prosiectau cyfalaf i
sicrhau cynnydd mewn cywirdeb wrth ragweld. Nododd swyddogion fod trydydd
partïon yn aml yn rhan o brosiectau, ac ni all yr awdurdod reoli gweithredoedd
y trydydd partïon. Ystyriwyd bod gan yr awdurdod fethodoleg dda o ran rheoli
prosiectau cyfalaf, ond yn aml mae oedi o ran grantiau a grantiau atodol yn
cyrraedd yr awdurdod.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.