8 Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 269 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Darparodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio
Bargen Ddinesig Bae Abertawe yr wybodaeth ddiweddaraf am Achos Busnes
Portffolio'r Fargen Ddinesig yr oedd angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU.
Gofynnodd yr aelodau pa mor gadarn yw'r achos busnes mewn
termau ariannol.
Dywedodd swyddogion ei fod yn fforddiadwy o hyd, y mae'r
achos busnes yn cadarnhau hyn. Fodd bynnag, mae heriau a mesurau lliniaru'n
parhau ac mae risgiau a materion o hyd ar gyfer y rhaglen gyflawni ond ar hyn o
bryd mae'n parhau i fod yn fforddiadwy ar draws yr holl raglenni a phrosiectau.
Gofynnodd yr aelodau a yw'r adroddiad yn gipolwg ar
fisoedd yn ôl. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn seiliedig ar ffurflenni
chwarter 3 2023/24.
Nododd yr aelodau y gallent gael diweddariad gwell yn y
cyfarfod craffu nesaf lle gall aelodau ofyn am faterion fforddiadwyedd yr achos
busnes.
Dywedodd swyddogion fod adroddiadau ariannol rheolaidd yn
cael eu llunio bob chwarter. Ychwanegodd swyddogion hefyd, pan ysgrifennwyd yr
achosion busnes sawl blwyddyn yn ôl, fod y gwerth i'r economi, y gwerth i'r
darparwyr arweiniol, y rhanddeiliaid dan sylw a'r buddiolwyr ohono yn uwch
heddiw nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl am sawl rheswm, mewn rhai
achosion.
Defnyddiodd swyddogion yr enghreifftiau o'r Rhaglen
Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, yn benodol Canolfan Dechnoleg y Bae a’r
prosiect datgarboneiddio dur (SWITCH). Mae'n debygol bod ganddynt bellach fwy o
werth economaidd na phan ddatblygwyd yr achos busnes dair blynedd yn ôl. Mae
hyn yn golygu, er y gall costau gynyddu, y bydd yr elw economaidd y bydd yr
adeiladau hynny'n ei gynhyrchu yn uwch i'r rhanbarth.
Dywedodd swyddogion y bydd yn rhaid iddynt fod yn llwyr
ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn yr ystyr hwnnw a nodwyd mai fforddiadwyedd
yw'r peth pwysig, ac mae ganddynt fecanwaith i wirio hynny trwy'r monitro
ariannol chwarterol yn ogystal â diweddariadau achosion busnes ymysg eraill, i
sicrhau eu bod yn hyfyw ac yn fforddiadwy o hyd a'u bod yn cael eu cyflawni fel
y cynlluniwyd.
Nododd yr aelodau, oherwydd y cychwynnwyd ar nifer o
achosion busnes tua 2017, mae cymdeithas a'r byd busnes wedi newid yn llwyr.
Gofynnodd yr aelodau pa mor berthnasol yw'r Fargen Ddinesig heddiw o ran yr hyn
a gynhyrchwyd bryd hynny a'r hyn sydd yma nawr.
Dywedodd yr aelodau hefyd, er bod swyddogion yn ymgymryd
â mesurau lliniaru i roi prosiectau mewn sefyllfa i gael y budd gorau o'r hyn
sy'n cael ei wneud, roedd yr aelodau'n teimlo bod angen iddynt ddeall beth yw'r
newid yn yr achos busnes hwnnw, fel eu bod yn gwybod beth sy'n cael ei wneud.
Cytunodd swyddogion â hyn a chyfeiriwyd at y weithdrefn rheoli newid sydd ar waith i nodi'r newidiadau hynny. Rhoddodd swyddogion yr enghraifft, ar gyfer Prosiect Morol Doc Penfro, nad oedd gwynt ar y môr yn rhan o'r prosiect yn wreiddiol. Ond aeth y prosiect trwy broses rheoli newid i ymgorffori hynny ynddo. Arhosodd yr amlen ariannol yr un peth ar gyfer y prosiect, ond newidiodd y ffocws, a'r hyn a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8