6 Adroddiad Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 329 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Bae Abertawe'r adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed ynghylch y rhaglenni a'r prosiectau a
oedd yn rhan
o Bortffolio Bargen Ddinesig
Bae Abertawe.
Dywedodd y Cadeirydd
ei fod wedi
mynychu'r digwyddiad 'Cwrdd รข'r Fargen Ddinesig' ac yn teimlo ei fod
yn werth mynychu ar gyfer
unrhyw fusnesau newydd a'i fod
yn agoriad llygad i'r hyn
sydd ar gael
i fusnesau na fyddai llawer ohonynt
byth wedi gwybod amdano pe na bai hyn wedi
cael ei roi
ar waith.
Dywedodd y Cadeirydd
hefyd fod yr ymweliad Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer yn Aberafan
wedi bod yn gyfle diddorol i weld yr hyn sy'n
digwydd ac mae'n gobeithio y bydd llawer mwy o'r
adeiladau hyn yn cael eu
hadeiladu i bobl elwa ohonynt.
Dywedodd swyddogion
y gellid trefnu mwy o ymweliadau safle wrth i'r
adeiladau eraill ar gyfer prosiectau
fel y Matrics, Pentre Awel,
a Ffordd y Brenin fynd ar-lein.
Nodwyd yr
adroddiad.