Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 3)

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)  

 

Cofnodion:

Cynigion y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr Aelodau am y gwahaniaeth mewn incwm net o'r ffigurau yn yr adroddiad a ymgynghorwyd arnynt a'r adroddiad i'w ystyried yn ystod y cyfarfod. Nodwyd bod y bwlch yn y gyllideb wedi lleihau tua £230,000 rhwng y ddau adroddiad. Fodd bynnag, mae lefel treth y cyngor y mae ei hangen i gau'r bwlch hefyd wedi lleihau o 10.3% i 7.9%. Holodd yr Aelodau sut y penderfynwyd ar y cyfrifiadau mewn perthynas â'r incwm a nodir yn y ddau adroddiad a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y rhagolygon ar gyfer yr incwm yn gywir.

 

Dywedodd swyddogion fod cynigion drafft y gyllideb yn nodi y gallai treth y cyngor gynyddu i oddeutu 10% ond nid oedd cynnig penodol yn cael ei gyflwyno yn yr ymgynghoriad o ran y ffigur y mae ei angen i gau'r bwlch. Mae'r rheswm dros y gwahaniaeth sylweddol yn ymwneud â rhagdybiaethau ynghylch cynllun cymorth treth y cyngor. Ym mis Rhagfyr defnyddiwyd ymagwedd ddarbodus wrth ymdrin â'r ffigurau gydag amcangyfrif darbodus iawn o dreth y cyngor net. Pan gyrhaeddodd y ffigurau, roedd modd mewnbynnu'r rhain yn ôl yr angen, a oedd yn adlewyrchu costau sylweddol llai cynllun gostyngiadau treth y cyngor.

 

Roedd y swyddog yn hyderus bod y ffigyrau yn yr adroddiad yn ddarbodus ac y gellir bodloni treth y cyngor o 7.9%.

 

Dywedodd swyddogion na fyddai adroddiad manwl gywir yn bosib yn ystod mis Rhagfyr gan fod yr adroddiad manwl diweddarach yn ei gwneud yn ofynnol i Capita fewnbynnu'r newidiadau amrywiol i ffigurau budd-daliadau yn y meddalwedd yn allanol er mwyn cwblhau'r adroddiadau gofynnol.

 

Gofynnodd yr Aelodau i'r newidiadau rhwng y ddau adroddiad gael eu hamlinellu'n glir. Cytunodd swyddogion i nodi'r pwyntiau a wnaed mewn perthynas ag amlinellu'n glir lle mae'r ffigurau'n ddarbodus a lle dengys ffigurau achos gwaethaf, dylid tynnu sylw at hyn yn yr adroddiad gydag esboniad. Bydd swyddogion yn sicrhau bod y syniadau hyn yn cael eu cynnwys yn adroddiadau'r flwyddyn nesaf.

 

Holodd yr Aelodau am nifer yr ymatebion a dderbyniwyd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ac a oedd ffordd o gynyddu cyfranogiad, trwy edrych efallai ar yr hyn y mae awdurdodau lleol eraill yn ei wneud.

 

Dywedodd swyddogion fod 581 o ymatebion wedi cael eu derbyn rhwng holiaduron papur ac ar-lein y llynedd o'i gymharu â'r 556 o holiaduron a gwblhawyd eleni. Daeth 13 o ymatebion i law drwy e-bost/llythyr y llynedd o'i gymharu â 6 eleni.  Y llynedd fe wnaeth 225 o weithwyr CNPT ymgysylltu â'r ymgynghoriad o'i gymharu â 146 eleni. Y llynedd, daeth 147 o bobl i gyfarfodydd ond 52 yn unig daeth i gyfarfodydd eleni. O ran gweithio gyda Chynghorau eraill, cadarnhaodd swyddogion eu bod yn rhan o weithgorau a oedd yn trafod ffyrdd amrywiol o ymgysylltu â dinasyddion. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd y cyfnod ymgynghori wedi digwydd dros y Nadolig y llynedd. Eleni roedd hyn allan o reolaeth swyddogion oherwydd amseru'r cyhoeddiad setliad felly doedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3