Craffu Cyn Penderfynu
·
Dewis eitemau priodol o
agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet
ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu).
Cofnodion:
Monitro'r
Gyllideb Refeniw - Chwarter 3
Diolchodd
yr aelodau i'r swyddogion am roi eglurder y tu allan i'r cyfarfod, mewn
perthynas â £3.87m a grybwyllir ar dudalen 24 o'r adroddiad, sydd wedi'i symud
yn ôl i gronfeydd wrth gefn penodol oherwydd gwaith heb ei gwblhau. Holodd yr
aelodau a oedd digon o swyddogion ar gael i gwblhau'r gwaith angenrheidiol yn
ystod y flwyddyn refeniw.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid mai dwy eitem oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r £3.87m
a symudwyd yn ôl i gronfeydd wrth gefn; mae £2.379m yn ymwneud ag oedi wrth
brynu cerbydau ailgylchu mawr, sydd wedi'i ohirio wrth i adolygiad o’r cerbydlu
gael ei gynnal. Roedd swm o £700 mil wedi'i gyllidebu ar gyfer ailfodelu Gorsaf
Drosglwyddo Crumlin Burrows - mae'r gwaith hwn wedi'i ohirio tan 2025. Mae 12
cofnod arall yn cael eu dychwelyd i gronfeydd wrth gefn; mae heriau o ran
recriwtio staff wedi bod yn ffactor cyfrannol yn enwedig yng Nghyfarwyddiaeth
yr Amgylchedd.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio'r amgylchiadau a amlinellwyd, a dywedodd
wrth aelodau fod taliadau atodol ar sail y farchnad wedi'u defnyddio gyda pheth
llwyddiant mewn rhai gwasanaethau i fynd i'r afael â materion recriwtio staff.
Mae cyllideb dros ben i fynd i'r afael â'r materion capasiti a drafodwyd gydag
aelodau o'r blaen.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 30 o'r adroddiad a oedd wedi'i gynnwys ym mhecyn yr
agenda a'r tanwariant arfaethedig o £600,000 mewn ynni, effeithlonrwydd,
trawsnewid a chynlluniau wrth gefn. Holodd yr aelodau a fydd y £700 mil y
nodwyd ei fod yn cael ei drosglwyddo i'r gronfa llety wrth gefn i ariannu
cynlluniau goleuadau effeithlonrwydd ynni yn ystod 2024/25 yn cael ei
drosglwyddo fel prosiect cyfalaf neu refeniw.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid y bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo i'r gronfa llety
wrth gefn, sy'n gronfa refeniw. Caiff y prosiectau eu cyflawni fel prosiectau
cyfalaf ond cânt eu hariannu drwy gronfa refeniw. Nodwyd y gellir ariannu gwariant cyfalaf drwy
gronfeydd refeniw ond nid i'r gwrthwyneb. Mae dau brosiect adnewyddu goleuadau
LED ar raddfa fawr wedi'u nodi yn y Ceiau a Chanolfan Ddinesig Chastell-nedd
ond nid oedd modd eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, mae cyllid
wedi'i drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn i'w ddefnyddio'r flwyddyn nesaf pan
fydd y prosiectau'n cael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.
Holodd
yr aelodau pam na nodwyd y prosiectau fel prosiectau cyfalaf o'r cychwyn cyntaf
a pham roedd tanwariant o'r fath.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio wrth aelodau fod ymdrechion yn cael eu gwneud i sefydlu tîm o swyddogion a fyddai'n canolbwyntio ar feysydd fel effeithlonrwydd ynni, carbon sero-net, newid yn yr hinsawdd ac ecoleg. Cafwyd anawsterau wrth dyfu'r tîm i'r maint gofynnol. Mae nifer o staff yn ymgymryd â’r dasg o leihau costau ynni'r awdurdod, gan sicrhau bod asedau'n gweithredu mor effeithlon â phosib. Mae astudiaethau adeiladu rheolaidd yn cael eu cynnal, ac mae achosion busnes ar waith i arddangos lle gellir cael enillion ar fuddsoddiad pe bai cynlluniau cyfalaf yn cael eu datblygu. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4