Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)
Cofnodion:
Archwilio Cymru – Llamu Ymlaen – Rheoli Gweithlu’n Strategol – Cyngor
Castell-nedd Port Talbot
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 33, paragraff 24 o
adroddiad Archwilio Cymru a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet. Nododd yr
adroddiad nad yw graddfa risg strategol gyfredol y cyngor yn adlewyrchu'n
ddigonol y risg weddilliol a wynebir oherwydd oedi wrth ddatblygu cynlluniau
olyniaeth a nodi rolau busnes hanfodol. Holodd yr aelodau a yw'r gofrestr
risgiau wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r pwynt hwn, a pha waith a wnaed ers
cyhoeddi'r adroddiad i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y
Gofrestr Risgiau Strategol yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, a bydd y broses
hon yn cynnwys gwaith ar gynllunio olyniaeth. Crynhodd y Pennaeth Gwasanaeth y
camau gweithredu a roddwyd ar waith i gynyddu nifer y gwasanaethau a chanddynt
gynlluniau olyniaeth ar waith, gyda sefyllfaoedd busnes hanfodol a nodwyd. Yn ystod
y flwyddyn galendr ddiwethaf, mae 72 o Reolwyr wedi mynychu Gweithdai Cynllunio
Olyniaeth ac mae'r gweithdy wedi'i wreiddio fel rhan o'r Rhaglen Datblygu
Craidd ar gyfer Rheolwyr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu'r pecyn cymorth
a ddefnyddir ar gyfer cynllunio olyniaeth gyda'r nod o'i ddigideiddio.
Ymgymerwyd â dadansoddiad o'r cynlluniau olyniaeth sydd ar waith ar hyn o bryd.
Mae Rheolwyr Atebol wedi cael eu hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod cynlluniau
olyniaeth ar waith.
Mynegodd yr aelodau bryder bod nifer o uwch reolwyr
allweddol wedi gadael yr awdurdod ac mae profiad y swyddogion busnes hanfodol
hyn wedi'i golli. Dywedodd yr aelodau nad oedd y gyfradd recriwtio yn cyfateb i
nifer y swyddi gwag.
Cydnabu'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol bwysigrwydd
rheolwyr yn ymwneud â chynllunio olyniaeth. Nodwyd bod cyfradd benodi
lwyddiannus y cyngor wedi cynyddu dros gyfnod o ddwy flynedd o 82% i 93% ac mae
gweithgarwch recriwtio wedi cynyddu 40%, gyda chyfradd trosiant gadarnhaol.
Cydnabuwyd bod rhai swyddi'n parhau i fod yn anodd eu llenwi, yn enwedig mewn
meysydd arbenigol.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod hwn yn faes gwaith
pwysig a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd
mae'r cyngor yn gweithredu mewn marchnad lafur dynn. Rhennir gwybodaeth am y
gweithlu gyda'r Pwyllgor Personél i alluogi aelodau i olrhain cynnydd.
Roedd yr aelodau'n falch o glywed am y cynnydd mewn targedau
recriwtio ond mynegwyd pryder ynghylch cadw staff a'r gost ariannol o
ddefnyddio taliadau atodol ar sail y farchnad mewn perthynas â swyddi anodd eu
llenwi.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod taliadau atodol ar
sail y farchnad yn offeryn y gellir ei ddefnyddio pan fo'n briodol ac mae
disgwyl i'r cynllun gael ei adolygu. Nodwyd mai dim ond un agwedd ar y pecyn
taliad cydnabyddiaeth gweithwyr yw tâl ac roedd buddion eraill yn gwneud y
cyngor yn gyflogwr deniadol.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y defnydd o daliadau atodol ar sail y farchnad yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio'n dda ac wedi helpu i gadw staff profiadol. Mae manteision ariannol i'w cael wrth gymhwyso taliadau atodol ar sail y farchnad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4