Craffu Cyn Penderfynu
·
Dewis eitemau priodol o
agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet
ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)
Cofnodion:
Chwarter 2 - Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda.
Dywedodd swyddogion fod gorwariant rhagamcanol o
£3.4m ar ddiwedd mis Medi. Mae'r Cyngor wedi parhau i geisio ffrwyno hyn fel
bod y gorwariant yn cael ei leihau a bod balansau wrth gefn yn cael eu diogelu
cyn belled ag y bo modd.
Mae swyddogion wedi ystyried pob cronfa wrth gefn
benodol ac wedi penderfynu a oes eu hangen o hyd ac a ellir eu hailbwrpasu.
Trwy'r ymarfer hwn, mae'r Cyngor wedi llwyddo i ailbwrpasu £7.899 miliwn o
gronfeydd wrth gefn penodol. Y bwriad yw paratoi tair menter drawsnewid hwy gan
ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny.
Holodd yr Aelodau, ar dudalen 27, mewn perthynas ag
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, yn seiliedig ar gostau hyd yn hyn y
gorwariant o £132,000. Holodd yr Aelodau pa gyllid ychwanegol y cyfeirir ato yn
yr adroddiad mewn perthynas â thalu am y gorwariant hwn. Cadarnhaodd swyddogion
pan osodwyd cyllidebau y pennwyd lwfans cyflog o 4% a dyfarniad cyflog
ychwanegol o 2% sy'n disgyn dros 4%. Bydd y cyllidebau hyn yn cael eu defnyddio
i ddyrannu'r costau'n ôl i gyfarwyddiaethau gwasanaethau ac ysgolion i sicrhau
bod dyfarniadau cyflog yn cael eu hariannu'n llawn.
Holodd yr Aelodau pwy gafodd ei gomisiynu i weld y
Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a beth oedd cost hyn. Cadarnhaodd swyddogion mai
Edge Public Consulting a gomisiynwyd, a bod hyn wedi costio £900,000 dros dair
blynedd. Cadarnhaodd swyddogion fod adroddiad yn amlinellu manylion y gwaith
hwn wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn flaenorol.
O ran strategaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol
sy'n cael eu cyflwyno, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai mwy o fanylion yn
cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar ôl y Nadolig.
O ran Cynhyrchu Incwm, tudalen 33, cadarnhaodd
swyddogion fod cronfeydd refeniw wrth gefn gwerth £1.5m wedi'u hailbwrpasu i
ariannu cynigion buddsoddi tymor hwy. Mae angen ailbwrpasu cronfeydd refeniw
wrth gefn i gyflawni cynigion trawsnewid tymor hwy wrth ddal i gynnal cyllideb
cynhyrchu incwm flynyddol i gefnogi hyn, a hynny o fewn y rhaglen gyfalaf.
Nid yw'r eitem goch a nodir ar dudalen 42 sy'n
cyfeirio at yr arbediad ym Mharc Gwledig y Gnoll yn gallu cael ei gyflwyno i'r
gwaith arfaethedig sy'n cael ei wneud drwy'r Gronfa Ffyniant Bro. Felly, ni
ellir cyflawni'r arbedion yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Cadarnhaodd swyddogion, o ran digwyddiadau yn Y
Gnoll, y bydd hyn yn mynd trwy broses gaffael briodol i sicrhau bod gan y
Cyngor y gwerth gorau am arian ar y digwyddiadau hyn.
Cododd yr Aelodau bryderon cyffredinol am lefel y craffu y gellir ei rhoi i eitemau pan fydd y papurau ar gyfer agendâu'n hir iawn. Er bod aelodau'n cydnabod bod papurau'n cael eu cyhoeddi o fewn yr amserlen gyfreithiol, roedd yr aelodau'n pryderu am nifer yr eitemau ar agenda. Atgoffodd y Prif Weithredwr aelodau o'r adolygiad craffu parhaus. Awgrymwyd, nes i'r adolygiad hwn yn cael ei gwblhau, y sefydlir rhagor o gyfarfodydd i sicrhau y cynhelir yr holl fusnes ond ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4