Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 17/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 4)

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)  

 

Cofnodion:

Archwilio Cymru - Safbwynt Defnyddwyr y Gwasanaeth

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym mhecyn agenda'r Cabinet.

 

Amlinellodd swyddogion gylch gwaith yr adroddiad. Gwnaethant gynghori'r aelodau, er nad oeddent yn cytuno'n llwyr â'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad gan Archwilio Cymru, fod swyddogion yn cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud. Mae'r Ffurflen Ymateb Sefydliadol yn darparu ymateb cryno i'r argymhellion gan Archwilio Cymru ac mae wedi cael ei derbyn ganddynt.

 

O ran adborth defnyddwyr, mae nifer o enghreifftiau’n dangos ym mhle y casglwyd adborth defnyddwyr ar draws yr awdurdod. Darparodd swyddogion enghreifftiau o ble mae hyn yn cael ei wneud. Roedd enghreifftiau'n cynnwys adroddiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Dai a Diogelwch Cymunedol. Hwn oedd yr adroddiad blynyddol ar gymryd rhan ac mae'n cynnwys ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth i benderfynu beth sy'n bwysig iddyn nhw. Cyfeiriodd swyddogion at y Cynllun Plant a Phobl Ifanc lle cynhaliwyd ymgynghoriad a chafwyd llawer o adborth. Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu drwy 'r Weithdrefn Canmoliaeth a Chwynion ac mae’n cael ei chasglu a'i dadansoddi er mwyn nodi gwelliannau y gellir eu gwneud i'r gwasanaeth. Cydnabuwyd hefyd fod proses debyg yn cael ei defnyddio gan y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid. Amlinellodd swyddogion eu bod yn gweithio gydag Archwilio Cymru i sicrhau bod yr wybodaeth a gesglir yn gadarn ac nad yw'n achosi gwaith ychwanegol i swyddogion wrth gymharu'r wybodaeth.

 

Holodd yr aelodau pa rannau o'r argymhellion gan Archwilio Cymru nad ydynt yn cael eu derbyn gan swyddogion. Amlinellodd swyddogion fod y gwaith a wnaed gan Archwilio Cymru'n fanwl iawn a'i fod yn rhan o ddarn cenedlaethol o waith a wnaed. Derbyniodd swyddogion fod yr awdurdod yn casglu llawer o ddata o safbwynt defnyddwyr gwasanaeth, ond roedd angen gwneud rhagor o waith er mwyn cryfhau sut mae'r data hwn yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio.

 

Nododd yr aelodau nad oedd yr awdurdod, mewn rhai meysydd efallai, yn deall safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth wrth wneud penderfyniadau.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y ddau argymhelliad yn yr adroddiad.

 

Roedd yr aelodau o'r farn bod y ddau gam gweithredu a nodwyd yn R1 yn ddigon synhwyrol, ond awgrymwyd y gallai fod rhywfaint mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod uwch arweinwyr yn deall gwerth cael y data a'r hyn y dylid ei ddefnyddio ar ei gyfer. Cydnabu'r aelodau fod angen i'r awdurdod ddeall pam mae data'r gwasanaeth yn bwysig a sut y gellir ei ddefnyddio i wella'r gwasanaeth. Mae rhai gwasanaethau'n canolbwyntio ar bobl ac roedd yr aelodau'n ystyried y meysydd hyn fel rhai sy’n defnyddio persbectif data defnyddwyr gwasanaeth yn dda. Fodd bynnag, awgrymwyd lle nad oedd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar bobl, yna roedd yr awdurdod yn tueddu i ganolbwyntio ar dargedau yn hytrach na safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth.

 

O ran ansawdd a chywirdeb y data a amlinellir yn R3, cyfeiriodd yr aelodau at yr ymateb y byddai ymgysylltiad â'r archwiliad mewnol ynghylch gwirio ansawdd gwybodaeth a chywirdeb gwybodaeth, a holwyd a oedd angen camau gweithredu pellach ar yr awdurdod i sicrhau bod data'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4