Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 28/11/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 3)

Craffu Cyn Penderfynu

·        To select appropriate items from the Cabinet agenda for pre-decision scrutiny (cabinet reports enclosed for Scrutiny Members)

Cofnodion:

Gosod Sylfaen Treth y Cyngor 2024/25 (Tudalennau 11 - 16)

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod pob cyngor yng Nghymru yn darparu ei Sylfaen Treth y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar 31 Hydref. Mae pob ym mand Treth y Cyngor A - I yn cael ei gyfrif a'i drosi i fand cyfwerth â Band D, ac mae'r swm amcangyfrifedig o eiddo newydd yn cael ei ychwanegu i roi Sylfaen Treth y Cyngor. Bydd Asesiad o Wariant Safonol Llywodraeth Cymru (SSA) yn gwerthuso faint y mae angen i'r cyngor ei wario i ddarparu gwasanaethau, caiff swm yr incwm a gynhyrchir drwy dreth y cyngor ei ddidynnu a defnyddir fformiwla i gyfrifo swm y Grant Cynnal Refeniw.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai newidiadau i'r system fandio bresennol yn effeithio ar y fformiwla.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod 85% o eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dod o fewn bandiau A-C sy'n gostwng ffigwr y band D cyfatebol. Nodwyd y byddai cynigion Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau i'r system treth y cyngor yn cael eu hadrodd i'r Cabinet er mwyn ystyried yr opsiynau arfaethedig.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

Adolygiad o Strategaeth Digidol Archwilio Cymru - Ymateb Sefydliadol (Tudalennau 17 - 66)

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y gronfa drawsnewidiol wrth gefn o £1.2m a grybwyllwyd yn yr adroddiad   gan gwestiynu pam nad oedd llinell amser ar gael.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod y cynllun cyflawni sy'n gysylltiedig â Strategaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg y cyngor yn cael ei ddatblygu ar adeg adolygiad Archwilio Cymru. Roedd yr adolygiad yn nodi trefniadau cadarn y cyngor ar gyfer cyflawni'r cynllun. Mae'r strategaeth bellach yn fyw ac mae proses lawn ynghylch blaenoriaethu gofynion i wasanaethau digidol. Unwaith y mae'r gofynion yn cael eu blaenoriaethu drwy'r Bwrdd Trawsnewid Digidol cânt eu pennu fel rhan o lwybr digidol a'u monitro'n llawn a'u hadrodd yn ôl i Gyfarwyddwyr Corfforaethol yn chwarterol, a bydd adolygiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet.

 

Gofynnodd yr Aelodau am y prosiectau a oedd eisoes yn rhan o'r Olrheiniwr Llwybrau ac am eu cynnydd, a gofynnwyd sut y gellir gwneud asesiad i nodi'r hyn y gellir ei gyflawni gyda'r gronfa wrth gefn o £1.2m. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sut y gellir rhoi strategaeth tymor hir ar waith ar gyfer digideiddio gan ystyried cyflymder y newidiadau yn y maes hwn a gofynnwyd i'r Strategaeth Digidol gael ei hychwanegu at y Flaenrhaglen Waith.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd llinell amser wedi'i bennu ar gyfer y strategaeth oherwydd pa mor gyflym y mae technoleg ddigidol yn newid. Bydd y datganiadau strategol yn y strategaeth yn cael eu hadolygu'n flynyddol yn erbyn y rhaglenni gwaith sy'n rhan o'r cynllun cyflawni, yr amcanion cyffredinol yn y cynllun corfforaethol a blaenoriaethau'r gyfarwyddiaeth. O ran y gronfa drawsnewid, mae  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3