Craffu Cyn Penderfynu
·
To select appropriate items from the Cabinet agenda for pre-decision
scrutiny (cabinet reports enclosed for Scrutiny Members)
Cofnodion:
Gosod Sylfaen Treth y Cyngor 2024/25 (Tudalennau 11 - 16)
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch
gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod pob
cyngor yng Nghymru yn darparu ei Sylfaen Treth y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar 31 Hydref. Mae pob tŷ ym mand
Treth y Cyngor A - I yn cael ei gyfrif
a'i drosi i fand cyfwerth â Band D, ac mae'r swm amcangyfrifedig
o eiddo newydd yn cael ei ychwanegu
i roi Sylfaen Treth y Cyngor. Bydd Asesiad
o Wariant Safonol Llywodraeth Cymru (SSA) yn gwerthuso
faint y mae angen i'r cyngor ei wario i ddarparu
gwasanaethau, caiff swm yr incwm a gynhyrchir drwy dreth y cyngor ei ddidynnu a defnyddir
fformiwla i gyfrifo swm y Grant Cynnal Refeniw.
Gofynnodd yr Aelodau a fyddai newidiadau
i'r system fandio bresennol
yn effeithio ar y fformiwla.
Cadarnhaodd swyddogion fod 85% o eiddo yng
Nghastell-nedd Port Talbot yn dod o fewn bandiau A-C sy'n gostwng ffigwr y band D cyfatebol. Nodwyd y byddai cynigion Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau i'r system treth y cyngor yn cael eu hadrodd
i'r Cabinet er mwyn ystyried yr opsiynau arfaethedig.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.
Adolygiad o Strategaeth Digidol Archwilio Cymru - Ymateb Sefydliadol (Tudalennau 17 - 66)
Cyfeiriodd yr Aelodau at y gronfa drawsnewidiol
wrth gefn o £1.2m a grybwyllwyd yn yr adroddiad gan gwestiynu pam nad oedd
llinell amser ar gael.
Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod y cynllun
cyflawni sy'n gysylltiedig
â Strategaeth Ddigidol,
Data a Thechnoleg y cyngor
yn cael ei ddatblygu ar adeg adolygiad Archwilio Cymru. Roedd yr adolygiad yn nodi trefniadau cadarn y cyngor ar gyfer cyflawni'r cynllun. Mae'r strategaeth bellach yn fyw ac mae proses lawn ynghylch blaenoriaethu gofynion i wasanaethau digidol. Unwaith y mae'r gofynion yn cael eu blaenoriaethu
drwy'r Bwrdd Trawsnewid Digidol cânt eu pennu
fel rhan o lwybr digidol a'u
monitro'n llawn a'u hadrodd yn ôl i Gyfarwyddwyr Corfforaethol yn chwarterol, a bydd adolygiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet.
Gofynnodd yr Aelodau am y prosiectau a oedd eisoes yn rhan o'r Olrheiniwr
Llwybrau ac am eu cynnydd, a gofynnwyd sut y gellir gwneud
asesiad i nodi'r hyn y gellir ei gyflawni
gyda'r gronfa wrth gefn o £1.2m. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sut y gellir rhoi strategaeth
tymor hir ar waith ar gyfer digideiddio gan ystyried cyflymder y newidiadau yn y maes hwn
a gofynnwyd i'r Strategaeth
Digidol gael ei hychwanegu at y Flaenrhaglen
Waith.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd llinell amser wedi'i bennu ar gyfer y strategaeth oherwydd pa mor gyflym y mae technoleg ddigidol yn newid. Bydd y datganiadau strategol yn y strategaeth yn cael eu hadolygu'n flynyddol yn erbyn y rhaglenni gwaith sy'n rhan o'r cynllun cyflawni, yr amcanion cyffredinol yn y cynllun corfforaethol a blaenoriaethau'r gyfarwyddiaeth. O ran y gronfa drawsnewid, mae ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3