Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Premiymau Treth y Cyngor – Cartrefi Gwag Tymor Hir
ac Ail Gartrefi
Gofynnodd yr Aelodau fod yr amgylchedd ariannol
presennol yn cael ei ystyried pan fydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud.
Ychwanegodd yr aelodau fod effaith ariannol ac y
gellid cynhyrchu incwm pe bai'r polisi'n cael ei roi ar waith. Yn dilyn
ymgynghoriad, deuir ag adroddiad yn ôl i'r pwyllgor cyn i'r penderfyniad
terfynol gael ei wneud. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei roi ar waith tan
y flwyddyn ariannol y flwyddyn ar ôl y flwyddyn nesaf.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion i'w
cyflwyno i'r Cabinet.
Monitro Perfformiad Chwarter 4
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am yr
amseroedd aros cyfartalog ar gyfer y rheini sy'n ymdrin â galwadau. Cadarnhaodd
swyddogion fod adroddiad manwl ynghylch Gwasanaethau Cwsmeriaid a Pherfformiad
wedi ei roi mewn seminar i aelodau yn gynharach eleni. Gan fod y Gwasanaethau
Cwsmeriaid bellach yn rhan o'r gyfarwyddiaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol,
bwriedir cynnal adolygiad llawn a dyma fydd tasg gyntaf Rheolwr y Gwasanaethau
Cwsmeriaid sydd newydd ei benodi a bydd aelodau'n rhan o'r broses adolygu. Mae
llawer o ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad ymdrin â galwadau, a tharged y
dangosydd perfformiad presennol yw 40 eiliad sy'n amser byr pan fydd staff yn cwblhau tasgau eraill. Gofynnodd yr aelodau a
oedd amseru'r alwad yn dechrau ar ôl y neges Gymraeg/Saesneg a recordiwyd neu
pan atebwyd yr alwad ffôn? Cadarnhaodd swyddogion fod yr amseru'n dechrau ar ôl
neges a recordiwyd. Ailadroddodd yr aelodau eu cynnig i fod yn rhan o'r broses
adolygu.
Gofynnodd yr Aelodau pam nad oedd y gyfradd cwblhau
hyfforddiant diogelu gorfodol yn uwch. Bydd swyddogion yn cael rhagor o
wybodaeth gan Adnoddau Dynol a bydd yr eitem hon yn cael ei hychwanegu at
agenda nesaf y cyfarfod Craffu.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Datganiad Sefyllfa Alldro a Chronfeydd Refeniw
2022-23
Mewn perthynas â'r gyllideb cludiant o'r cartref
i'r ysgol, gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw waith wedi'i wneud yn ystod y
broses o bennu'r gyllideb mewn perthynas â'r gorwariant ac a oedd ffyrdd
arloesol eraill o ddarparu'r gwasanaeth hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod ystod o
adolygiadau strategol ar gludiant yn parhau, ac y byddai aelodau yn cael clywed
am ganlyniad hyn fel rhan o'r broses pennu'r gyllideb ar gyfer eleni. Mae
swyddogion yr un mor bryderus am y gorwariant a'r pwysau ar y gyllideb o'r
cartref i'r ysgol. Diolchodd yr Aelodau i'r staff am eu gwaith caled a'r
problemau yr oeddent wedi'u goresgyn yn ddiweddar.
Roedd yr Aelodau'n falch, mewn perthynas â
lleoliadau y tu allan i'r sir, fod pobl ifanc yn cael eu haddysgu'n agosach at
adref a gwnaethant sylwadau hefyd ei fod yn braf gweld cyllid ychwanegol ar
gyfer y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion.
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar symudiad tanwariant i gronfeydd wrth gefn a'r cyfeiriad yn yr adroddiad at 'allu i gefnogi prosiectau adfywio' ac fe ofynnon nhw ar gyfer beth y gellid defnyddio'r gronfa wrth gefn. Cadarnhaodd swyddogion y gellid defnyddio'r cyllid o bosib ar gyfer cyflogi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5