Mater - cyfarfodydd

[Insert Title]

Cyfarfod: 28/06/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 4)

4 Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strategaeth Hybu'r Gymraeg pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelodau fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi bod yn gynhyrchiol ac wedi cynhyrchu syniadau diddorol, ac fe fynegon nhw eu diddordeb mewn parhau fel aelodau i ymwneud â'r Gymraeg wrth symud ymlaen. Dylai'r strategaeth fod yn ddogfen fyw sy'n cael ei hadolygu, ei monitro a'i diweddaru'n rheolaidd i gryfhau ymwybyddiaeth a defnydd o'r iaith ar draws ein cymunedau ac yng ngwaith y cyngor. Nodwyd bod y strategaeth yn bwysig ar draws y cyngor cyfan ond yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd yr Aelodau ei bod wedi bod yn anodd i'r awdurdod, partneriaid a sefydliadau cymunedol ddatblygu'r strategaeth flaenorol oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig.

 

Cytunodd Pwyllgor Craffu'r Cabinet i gymeradwyo canfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ogystal â'r Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg ddiwygiedig i'r Cabinet.