Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 17/05/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 4)

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Rhoi Indemniad Swyddog i Karen Jones mewn perthynas ag Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru

 

(Ailddatganodd Karen Jones ei budd a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig)

 

Diweddarwyd yr aelodau ar y cais i roi indemniad swyddog i'r Prif Weithredwr yng ngoleuni ei rôl fel cyfarwyddwr Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru.

 

Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r swydd yn derbyn tâl am y gwaith sydd ynghlwm wrthi Esboniodd swyddogion na fyddai tâl yn cael ei roi ar gyfer y swydd ac y byddai'r Prif Weithredwr yn cyflawni'r rôl ar sail wirfoddol oherwydd ei harbenigedd.

 

Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad gefnogaeth i fynd gerbron y Cabinet.

 

Archwilio Cymru - Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol Sicrwydd ac Asesu Risgiau

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd gan y pwyllgor craffu gyfres o ymholiadau ar gyfer yr eitem hon, fodd bynnag, nodwyd bod yr Aelod Cabinet perthnasol yn dymuno cyflwyno'r adroddiad ar lafar i'r pwyllgor.

 

Diweddariad mewn perthynas â chyflwyno

Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot

 

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau mewn perthynas â chyflwyno

Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd Katie Cook o Gymru Gynnes yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch cysyniad cychwynnol y Cynllun Cymorth Caledi. Nodwyd bod aelodau wedi gofyn am y cynllun yn wreiddiol i gefnogi'r cyhoedd a oedd yn derbyn budd-daliadau a hefyd etholwyr sy'n gweithio y mae'r argyfwng costau byw cyfredol yn effeithio arnynt. Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd rhoi ystyriaeth i gael ymagwedd helaethach o ran y meini prawf i sicrhau bod mwy o gwmpas mewn perthynas â'r rheini y byddai angen mwy o gefnogaeth arnynt.

Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd iddynt dderbyn dadansoddiad fesul ward o'r rheini sydd wedi gofyn am y cyllid.

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd a ellid darparu taflenni Cymru Gynnes i aelodau i'w rhannu â'u hetholwyr.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.